Saer ifanc yn adfer bwrdd drafftiau 100 oed

  • Cyhoeddwyd
Bwrdd drafftiau
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y bwrdd drafftiau gwreiddiol ei adnewyddu, ac fe gafodd copi arall ei wneud

Mae saer coed 14 oed wedi cynorthwyo i adfer hen fwrdd drafftiau gafodd ei ddefnyddio gan bencampwr dall dros ganrif yn ôl.

Roedd Llewelyn Williams, a gafodd ei eni ym Mrychdyn, Sir y Fflint yn 1878, yn bianydd gwych er ei fod yn ddall a byddar, ac roedd yn cyfansoddi ei gerddoriaeth ei hun pan yn 14 oed.

Daeth hefyd yn bencampwr yn y gêm drafftiau, gan ddefnyddio bwrdd arbennig a gafodd ei addasu'n arbennig iddo gan ei ewythr yn 1920.

Dros ganrif yn ddiweddarach, ac mae saer coed 14 oed o Sir y Fflint - Chris Roberts - wedi bod yn chwarae rhan bwysig wrth adfer yr hen fwrdd drafftiau yna.

Mae Chris yn ddisgybl yn Ysgol Bryn Alun, ac wedi bod yn saer brwdfrydig ers pan yn 10 oed.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris Roberts yn defnyddio gweithdy ei dad i greu gwrthrychau pren

Eglurodd Chris bod saer lleol arall - Emyr Jones - wedi adfer y bwrdd gwreiddiol ac hefyd wedi gwneud copi arall ohono, ond bod y rhan fwyaf o'r drafftiau eu hunain wedi eu colli dros amser.

Dywedodd: "Fe glywais i gyntaf am ddrafftiau Llewelyn wedi i'w or-nai Godfrey ofyn i fy nhad os oedd yn nabod rhywun allai atgynhyrchu'r darnau.

"Mae ganddyn nhw begiau yn y gwaelod sy'n ffitio i mewn i dyllau yn y bwrdd. Mae'r darnau gwyn yn llyfn, ond mae bylchau bach ar y darnau du fel bod Llewelyn yn medru deud y gwahaniaeth rhyngddyn nhw.

"Yn anffodus does yr un o'r brenhinoedd dwbl ar ôl, ond roedd hynny'n rhoi cyfle i mi fod yn greadigol gyda'r dyluniad."

Disgrifiad o’r llun,

Mae pegiau ar waelod y darnau i'w cadw yn eu lle, ac mae bylchau bach ar dop y darnau du tra bod y darnau gwyn yn llyfn

Yn 1890 ag yntau'n 12 oed, fe gafodd Llewelyn Williams y frech goch, gan arwain at golli ei olwg yn syth, ac yna ei glyw ychydig yn ddiweddarach.

Oherwydd casgliad ariannol sylweddol fe gafodd y cyfle i fynd i ysgol gerdd arbennig i bobl ddall yn Lerpwl. Cafodd ei ddisgrifio gan gyfarwyddwr cerdd yr ysgol, Edward Watson, fel "fy nisgybl ifanc disglair".

Ychwanegodd: "Roedd yn gerddor dawnus oedd byth yn cymryd mwy na mis i ddysgu a chwarae sonata cyfan gan Beethoven. Roedd hynny pan nad oedd Braille wedi datblygu rhyw lawer... fe fyddai'n medru gwneud yr un fath mewn hanner yr amser erbyn hyn."

Roedd hefyd yn gyfansoddwr, ac fe gafodd ei waith i'r piano - 'Zingaresca' - ei ganmol yn arw gan Ernest Fowles, oedd yn gymrawd gydag Academi Gerddorol Frenhinol.

Ond tua'r un adeg fe ddaeth Llewelyn Williams yn bencampwr drafftiau mewn cyfnod lle'r oedd y gêm yn boblogaidd dros ben ac yn cael sylw ym mhapurau newydd y cyfnod.

Pan ddaeth i glywed stori Llewelyn, fe ddywedodd Chris Roberts ei fod wedi ei ysbrydoli.

"Roedd clywed ei fod wedi bod yn benderfynol o lwyddo er gwaetha' popeth yn gwneud i rywun sylweddoli pa mor ffodus mae rhywun i gael rhyw fath o ddawn."