Apêl i'r Fatican i beidio cau eglwys yn llwyddo

  • Cyhoeddwyd
Eglwys St Michael

Mae addolwyr eglwys Gatholig yng Nghonwy wedi ennill eu hapêl i beidio â chau'r eglwys ar ôl i'r Fatican wyrdroi'r penderfyniad.

Cafodd y gwasanaeth olaf yn Eglwys St Michael ei gynnal ym mis Chwefror 2018 ac fe gyhoeddodd Esgob Wrecsam bod yr adeilad ar gau.

Ond fe apeliodd rhai oedd yn mynychu i'r clerigwyr yn y Fatican yn Rhufain ac mae'r apêl wedi bod yn llwyddiannus.

Mae'r Esgob nawr yn dweud y bydd yn ystyried y penderfyniad gyda swyddogion eraill o'r eglwys.

Diffyg cynulleidfaoedd a nifer yr offeiriaid yn yr ardal oedd y rhesymau pam y daeth y gwasanaethau i ben yn yr eglwys.

Cyngor cyfreithiol

Fe aeth y plwyfolion ati i gasglu arian am wythnosau, cael cyngor gan gyfreithwyr eglwysi arbenigol ac yna llunio eu cais i'w rhoi i'r Fatican.

Maen nhw'n dweud eu bod wedi cysylltu gyda'r Esgob er mwyn trafod beth fydd yn digwydd nawr i'r eglwys ond na fyddan nhw yn gwneud sylw pellach tra bod y trafodaethau yma yn digwydd.

Dywedodd llefarydd ar gyfer Esgob Wrecsam ei fod wedi cael gwybod bod yr apêl wedi llwyddo.

"Mewn termau syml mae'n golygu bod y bwriad i gau'r eglwys yn barhaol ddim ar hyn o bryd yn gallu digwydd."

Ychwanegodd y llefarydd y bydd yr esgob, ynghyd ag offeiriaid y plwyf a swyddogion eraill yr eglwys nawr yn ystyried y penderfyniad.