Neil McEvoy 'wedi torri ar draws cyfarfod therapi plentyn'
- Cyhoeddwyd
Clywodd panel cyngor bod gwleidydd wedi torri ar draws cyfarfod therapi yn cynnwys plentyn bregus mewn gofal.
Ymddangosodd Neil McEvoy, cynghorydd o Gaerdydd ac Aelod Cynulliad annibynnol, mewn gwrandawiad i ateb honiadau iddo fwlio staff sy'n gyfrifol am y plentyn.
Clywodd iddo geisio cael mynediad i gyfarfod rhwng y plentyn, ei rieni a therapydd.
Dywedodd Mr McEvoy ei fod yn gweithredu ar ran y teulu a oedd yn ofni bod rhywun wedi ymosod ar eu plentyn tra oedd mewn gofal.
Clywodd is-bwyllgor safonau a moeseg Cyngor Caerdydd sut yr arweiniodd ei ymyrraeth gyda'r teulu at roi stop ar gyswllt rhwng y plentyn a'i rieni.
'Bwlio person atebodd y ffôn'
Mae AC Canol De Cymru, sy'n gyn-aelod o Plaid Cymru ond sydd bellach yn eistedd yn annibynnol, yn destun ymchwiliad i honiadau o dorri cod ymddygiad y cyngor.
Dywedwyd wrth y gwrandawiad fod Mr McEvoy wedi ymddwyn mewn ffordd o fwlio tuag at berson yn y cartref a atebodd alwad ffôn gan y gwleidydd.
Dywedodd Mr McEvoy fod ei ymglymiad gyda'r achos wedi galluogi'r rhieni i gael atebion gan y cyngor ynglŷn ag achos eu plentyn.
Ychwanegodd ei fod wedi bod eisiau mynychu'r cyfarfod therapi oherwydd nad oedd y darparwr gofal yn ymwybodol o anghenion addysgol arbennig y plentyn.
Mae'r gwrandawiad yn parhau.