Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion dros Gymru ddydd Iau

  • Cyhoeddwyd
GwyntFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae rhybudd melyn am "wyntoedd cryf iawn" wedi ei gyhoeddi ar gyfer Cymru gyfan yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Mae disgwyl y gall gwyntoedd hyrddio hyd at 50-60mya, gan gyrraedd 70mya mewn mannau, medd y Swyddfa Dywydd.

Mae 'na rybudd fod perygl bychan y gallai amodau gyrru fod yn anodd, a gallai'r tywydd gael effaith ar gyflenwadau trydan a thrafnidiaeth gyhoeddus, gan ddifrodi adeiladau.

Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 03:00 a 18:00 ddydd Iau, er y bydd y gwynt yn gostegu'n araf o ganol y bore ymlaen.