Ymchwiliad i Alun Cairns yn un 'ffug', medd dioddefwr
- Cyhoeddwyd
Roedd ymchwiliad i gyn-Ysgrifennydd Cymru yn dilyn cwymp achos llys yn un "ffug", yn ôl dynes gafodd ei threisio.
Daeth yr ymchwiliad i'r canlyniad nad oedd Alun Cairns wedi torri'r cod gweinidogol ar ôl i gydweithiwr ddymchwel achos treisio.
Dywedodd y ddynes, "Lucy", nad oedd unrhyw un wedi bod mewn cysylltiad â hi yn ystod yr ymchwiliad i'r AS Ceidwadol.
Fe wnaeth Mr Cairns ymddiswyddo o'r cabinet yn dilyn honiadau ei fod yn gwybod bod Ross England wedi mynd yn groes i farnwr drwy sôn am hanes rhywiol y dioddefwr yn y llys.
Mae Mr Cairns wedi ymddiheuro "am y trawma" mae'r ddynes wedi ei brofi.
Nid yw Swyddfa'r Cabinet, wnaeth gynnal yr ymchwiliad, wedi ymateb i gais am sylw.
Yn 2018, roedd Mr England yn dyst yn achos llys ei ffrind, James Hackett, oedd wedi ei gyhuddo o dreisio Lucy.
Yn Llys y Goron Caerdydd dywedodd Mr England ei fod wedi cael perthynas rywiol gyda Lucy, er bod y barnwr wedi dweud nad oedd modd trafod hanes rhywiol y dioddefwr.
Dywedodd y barnwr ei fod yn sicr bod hynny'n ymgais fwriadol i ddymchwel yr achos.
Yn siarad ar raglen Victoria Derbyshire ar y BBC, dywedodd Lucy: "Fe wnaeth e ddweud celwydd heb feddwl ddwywaith ac o'n i'n meddwl 'Mae'r dyn yma'n teimlo na ellir ei gyffwrdd, ac fe gafodd y teimlad yna gan y Blaid Geidwadol'."
Yn dilyn yr achos dywedodd Mr England nad oedd yn gwybod bod "unrhyw beth wedi ei ddynodi'n annerbyniol cyn rhoi tystiolaeth".
"Rhoddais ateb gonest, gan gyd-fynd â'r addewid i ddweud y gwir."
Cairns wedi derbyn e-bost
Fe wnaeth Mr Cairns benodi Mr England yn ddiweddarach i weithio fel rheolwr ei ymgyrch, yn yr un swyddfa â Lucy - oedd hefyd yn gweithio i'r AS - wnaeth arwain iddi adael ei swydd.
Ymddiswyddodd Mr Cairns fel Ysgrifennydd Cymru ym mis Tachwedd dros honiadau ei fod wedi cefnogi Mr England fel ymgeisydd y blaid ar gyfer etholiad y Cynulliad, er ei fod yn gwybod am yr hyn ddigwyddodd.
Mae'r BBC wedi gweld e-bost gafodd ei anfon at Mr Cairns gan ei gynghorydd arbenigol, Geraint Evans, ar 2 Awst 2018.
Dywedodd: "Dwi wedi siarad gyda Ross ac mae'n hyderus na fydd unrhyw gamau pellach gan y llys."
Ers hynny daeth ymchwiliad gan y llywodraeth i'r canlyniad na wnaeth Mr Cairns dorri'r cod gweinidogol.
Daeth yr ymchwiliad i'r canlyniad bod y rhai oedd ynghlwm â'r achos yn honni nad oedden nhw wedi dweud wrth Mr Cairns am weithred Mr England, a bod dim tystiolaeth i wrth-ddweud hynny.
'Ymgyrch o gasineb'
Dywedodd Lucy nad oedd ymgais i siarad gyda hi fel rhan o'r ymchwiliad.
"Mae'r holl beth yn teimlo'n ffug," meddai.
"Pa fath o ymchwiliad sydd ddim yn cysylltu gyda'r person sydd wedi ei effeithio fwyaf?"
Dywedodd Lucy iddi ddioddef "ymgyrch o gasineb" gan aelodau o'r Blaid Geidwadol, am ei bod wedi "meiddio dweud wrth yr heddlu am yr hyn ddigwyddodd".
Cafodd Lucy ei threisio wrth iddi gysgu mewn parti oedd yn cael ei gynnal gan Mr England a'i gariad Kathryn Kelloway, sy'n gynghorydd yng Nghaerdydd.
"Pan wnes i ddeffro roedd o'n ymosod arna i," meddai.
"Yn y diwedd llwyddais i'w ymladd i ffwrdd a rhedeg i lawr y grisiau, a dweud wrth ffrind."
Cafwyd Hackett yn euog mewn achos yn ddiweddarach a'i garcharu am bum mlynedd.
Mae Lucy yn honni bod Ms Kelloway wedi dweud wrth yr heddlu nad oedd yr honiad yn wir ar noson y digwyddiad.
"Roedd hynny'n gosod y dôn ar gyfer y ddwy flynedd nesaf," meddai.
"Roedd yn ymgyrch i daflu baw.
"Roedden nhw'n ceisio lledaenu'r neges am bwy o'n i wedi cysgu 'da, ac felly os o'n i wedi cysgu gyda'r fath bobl, yna o'n i'n haeddu be' ddigwyddodd.
"Roedden nhw'n ceisio dweud mod i wedi dweud celwydd am bethau eraill, mod i wedi dweud pethau am fenywod eraill, ac yna os o'n i wedi dweud hynny, yna mae'n rhaid mod i'n dweud celwydd yma."
Mae Ms Kelloway wedi gwadu gwneud "unrhyw beth o gwbl o'i le".
"Dwi wedi dweud dim ond y gwir drwy'r adeg, gan gynnwys i'r heddlu ac yn y llys [fel tyst i'r erlyniad]," meddai.
'Dim parch tuag ata i'
Mae Lucy wedi dweud bod gan y Blaid Geidwadol lawer o waith i'w wneud er mwyn sicrhau ei fod yn le diogel i fenywod ifanc weithio.
"Doedd ganddyn nhw ddim parch tuag ata i a be' o'n i'n mynd drwyddo," meddai.
"Roedd hi'n sicr yn teimlo fod aelodau'r Blaid Geidwadol yn fy nghyhuddo."
Mewn datganiad dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig: "Rydyn ni'n ymddiheuro am yr amgylchiadau ynghylch cwymp yr achos a'r boen mae hyn yn sicr o fod wedi'i achosi i'r dioddefwr."
Dywedodd Mr Cairns ei fod yn "ymddiheuro am y trawma a'r dioddef mae Lucy wedi ei wynebu".
"Roeddwn i'n credu bod fy staff a minnau wedi ei chefnogi mewn ffordd ofalgar a thrugarog drwy gydol y cyfnod.
"Fe wnaeth Lucy gydnabod hyn mewn negeseuon ar y pryd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2019