Yr actor James Lusted i gyflwyno Songs of Praise

  • Cyhoeddwyd
James Lusted ar Songs of Praise

Mae actor a chynghorydd sir o Sir Conwy wedi disgrifio'r "fraint ac anrhydedd" o ymuno â thîm cyflwyno rhaglen deledu'r BBC, Songs of Praise.

Bydd James Lusted, 30, yn ymddangos yn ei raglen gyntaf yn y rôl ddydd Sul yma.

Dywedodd ei fod "yn anhygoel o gyffrous i ymuno â theulu cyflwynwyr Songs of Praise" sydd eisoes yn cynnwys tri o Gymry amlwg - Aled Jones, Katherine Jenkins a Sean Fletcher.

Ychwanegodd: "Mae'n fraint ac yn anrhydedd i fod yn rhan o'r rhaglen llawn ffydd yma, sydd wedi bod ar ein sgriniau am lawer o flynyddoedd".

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth James hedfan mewn gleider dros Loch Kinross ar gyfer ei bennod gyntaf fel un o gyflwynwyr y rhaglen

Mae'n ymuno â'r rhaglen ar ôl perfformio fel un o'r corachod fis diwethaf ym mhantomeim Snow White and the Seven Dwarves ym Mhafiliwn Y Rhyl.

Cafodd ei eni gyda math prin o gamdyfiant, Dysplasia Diastroffig, sydd wedi cyfyngu ei daldra i dair troedfedd a saith modfedd.

Mae'r cyflwynydd - sy'n cael ei nabod fel Jay - eisoes wedi ymddangos ar y rhaglen fel cyfrannwr, ble bu'n trafod sut mae ei ffydd yn helpu iddo ddygymod â'r cyflwr.

Mae eisoes wedi cyflwyno cyfresi teledu ar S4C - Byd Mawr y Dyn Bach a Taith Fawr y Dyn Bach, ble bu'n cwrdd ag unigolion sy'n byw gyda gwahanol anableddau a chyflyrau meddygol.

Mae'r hefyd yn cynrychioli Llandrillo-yn-rhos ar Gyngor Sir Conwy ar ran y Ceidwadwyr Cymreig.