Côr Cadeirlan Bangor 'wedi eu sarhau' gan Songs of Praise

  • Cyhoeddwyd
Cadeirlan BangorFfynhonnell y llun, Jeff Buck/Geograph

Mae cantorion o Gôr Cadeirlan Bangor yn dweud eu bod wedi eu sarhau am nad yw rhaglen deledu'r BBC, Songs of Praise wedi gofyn iddyn nhw gymryd rhan yn y gyfres ddiweddaraf.

Bydd camerâu teledu yn recordio yn yr eglwys gadeiriol ddydd Llun 5 Mawrth ar gyfer rhaglen sydd i'w darlledu dros benwythnos y Pasg.

Fodd bynnag, mae rhai aelodau o'r côr yn anhapus fod côr arall, Côr Glanaethwy, wedi cael gwahoddiad i berfformio, ond nad oes cais wedi dod iddyn nhw.

Mae rhieni hefyd yn dweud fod aelodau o'r ddau gôr wedi bod yn pryfocio'i gilydd yn yr ysgol dros y mater.

Mewn llythyr i gorff llywodraethol y gadeirlan, dywedodd un canwr ifanc fod y penderfyniad yn dangos "diffyg parch".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Songs of Praise yn recordio rhaglenni o wahanol eglwysi ar draws y DU

Mae rhieni un plentyn sy'n cwyno wedi gofyn am beidio â chyhoeddi ei enw, ond mae'r llythyr yn dweud: "Mae Songs of Praise yn rhaglen deledu Gristnogol, ac mae côr y gadeirlan yn gôr Cristnogol. Serch hynny, dydy'r côr ddim wedi cael cais i ganu yn Songs of Praise, sy'n sarhad.

"Mae hyn yn siomedig iawn i mi yn bersonol am fy mod wedi ymroi llawer o amser ac ymdrech i'r côr (fel llawer o rai eraill).

"Hoffwn wybod pam nad oedd y côr wedi ei gynnwys gyda'r gofod fel rhan o'r trefniadau.

"Sut byddwch chi'n meddwl y bydd y gynulleidfa'n teimlo nad yw eu côr yn rhan o'r digwyddiad?"

Ffynhonnell y llun, Britain's Got Talent
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Côr Glanaethwy'n perfformio mewn rhifyn o Songs of Praise sydd i'w ddarlledu dros y Pasg

Mae'r gadeirlan yn dyddio'n ôl i'r 14eg ganrif, ac mae tua 20 o blant - bechgyn a merched - yn canu'n gyson, yn ogystal ag oedolion.

Mae nifer o blant ac o leiaf un rhiant wedi ysgrifennu at gorff llywodraethol y gadeirlan i gwyno.

Dywedodd un rhiant fod aelodau o Gôr Glanaethwy wedi bod yn pryfocio aelodau o Gôr y Gadeirlan am nad oedden nhw'n canu fel côr yn y darllediad.

'Braint'

Dywedodd Deon Cadeirlan Bangor, Y Tra Pharchedig Kathy Jones: "Rydym wrth ein boddau fod Songs of Praise yn mynd i recordio yng Nghadeirlan Bangor a bod nifer o grwpiau o'r gymuned yn cymryd rhan.

"Fel eglwys, rydym yn croesawu pob cyfle i gynnig ein lletygarwch i bawb, ac mae'n fraint cael cynnal y dathliad hwn yn ninas Bangor."

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "Mae Songs of Praise yn ffilmio mewn gwahanol eglwysi cadeiriol ar draws y DU ac yn aml yn gweithio gyda nifer o gorau ar leoliad, ac ar yr achlysur hwn, rydym yn ffilmio gydag Ysgol Glanaethwy.

"Mae pob côr lleol, gan gynnwys Côr Cadeirlan Bangor, wedi eu gwahodd i fod yn rhan o'r gynulleidfa a chanu emynau."