Y llwyfan yn barod ar gyfer Eisteddfod newydd Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Yn Ysgol Plasmawr yn y brifddinas nos Wener fe fydd enw newydd yn ymuno â rhestr Eisteddfodau Lleol Cymru, gydag Eisteddfod Caerdydd yn cael ei chynnal am y tro cyntaf.
Gwirfoddolwyr sy'n gyfrifol am y fenter, gafodd ei sbarduno gan lwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol yn y brifddinas yn 2018.
Y gobaith yw troi'r digwyddiad yn un blynyddol.
Gyda dros 30 o gystadlaethau mae disgwyl cystadlu brwd yn y llefaru, canu a'r dawnsio nos Wener, gyda'r cystadlu'n dechrau am 16:00.
Dywedodd cadeirydd Eisteddfod Caerdydd, Sioned Wyn: "Yn sgil 'Steddfod Genedlaethol 2018 roedd 'na griw ohonom ni oedd yn awyddus i sefydlu 'Steddfod leol yng Nghaerdydd, achos does dim un yn bodoli - a does dim un wedi bod ers sawl blwyddyn.
"Felly o' ni'n awyddus i gael un yma yn lleol yng Nghaerdydd, yn enwedig ar ôl llwyddiant Eisteddfod y Cymoedd, a pha mor llwyddiannus mae honno wedi bod yn ddiweddar.
"O' ni'n meddwl ei bod hi'n iawn fod ein prifddinas yn cael Eisteddfod leol."
Mae nifer o eisteddfodau ar hyd a lled Cymru yn derbyn cefnogaeth gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru.
Dywedodd Shân Crofft, swyddog datblygu'r gymdeithas, eu bod yn barod i roi help a chanllawiau i unrhyw un sydd eisiau dechrau Eisteddfod newydd.
"Mae'n ddifyr iawn, yn gyffrous, ac am fod yr Urdd yng Nghaerdydd y llynedd roedd y momentwm yn cario o hyd," meddai.
"Dros y flwyddyn mae rhyw bedair ardal wedi cysylltu i ddweud eu bod naill ai am ddechrau Eisteddfod newydd - dyw hyn ddim yn cyfrif Caerdydd - neu ailddechrau Eisteddfod sydd wedi dod i ben ers sawl blwyddyn.
"A ni yma fel cymdeithas i gefnogi rhai mawr a rhai bach, rhai sy'n ailddechrau, rhai sydd eisiau tyfu ac yn y blaen. Yr un yw'r neges - mae'n rhaid cadw Eisteddfodau lleol i fynd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi 2018
- Cyhoeddwyd8 Awst 2018
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2018