Chwaraewr Y Bala 'ar y trywydd iawn' wrth wella o ganser

  • Cyhoeddwyd
Daniel Gosset (chwith) yn cynrychioli Cymru C yn erbyn Lloegr yn 2018Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daniel Gosset (chwith) yn cynrychioli Cymru C yn erbyn Lloegr yn 2018

Mae un o bêl-droedwyr Uwch Gynghrair Cymru wedi dweud ei fod "ar y trywydd iawn" gyda'i driniaeth wrth iddo geisio gwella o ganser.

Cafodd Danny Gosset, sy'n chwarae i glwb Y Bala, wybod y llynedd fod ganddo non-Hodgkin Lymphoma, sef math o ganser y gwaed.

Mae bellach wedi gorffen cwrs o gemotherapi ac ar fin dechrau triniaeth radiotherapi, gyda'r gobaith o ddychwelyd i'r cae pêl-droed mor fuan â phosib.

"Dwi ar y trywydd iawn ar y funud," meddai'r chwaraewr wrth siarad â rhaglen Ar Y Marc BBC Radio Cymru. "Dwi'n meddwl bod pethau 'di mynd mor dda a fedran nhw."

'Methu aros i fod nôl'

Dywedodd Gosset, sy'n gyn-ddisgybl Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon, ei fod wedi dechrau teimlo poen yn y goes llynedd, ac fe gafodd sgan ar ddiwedd y tymor.

Yn dilyn profion pellach fe ddaeth i'r amlwg fod ganddo diwmor ar ei goes, oedd yn fwy difrifol nag anaf arferol.

"Roedd o'n sioc mawr i glywed newyddion fel 'na, ond nes i acceptio'r situation a jyst symud ymlaen, gweld o fatha unrhyw obstacle arall oedd o flaen fi," meddai.

Ers cyhoeddi ei ddiagnosis ym mis Medi mae Gosset, sydd hefyd wedi chwarae dros y Seintiau Newydd, Dinas Bangor, Oldham Athletic a thîm lled-broffesiynol Cymru, wedi cael cefnogaeth o bob cwr o'r byd pêl-droed.

Ffynhonnell y llun, Daniel Gosset/Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Danny Gosset ar ymweliad â charfan Cymru ym mis Tachwedd wrth iddo fynd drwy'i driniaeth

"Mae 'di bod yn overwhelming, yr holl support. Dwi mor ddiolchgar i bawb - mae 'di rhoi boost mawr i fi," ychwanegodd.

"Dwi methu disgwyl [i fod yn ôl ar y cae] - ond hynna sydd ar meddwl fi.

"Dwi 'di bod yn dilyn y gemau, dwi 'di bod yn meddwl am pryd fyddai'n gallu dod nôl... ond mae o bach yn tricky ar y funud achos y peth pwysicaf ydy gorffen y driniaeth i gyd a chael yr iechyd yn 100%."

Er nad ydy Gosset wedi gallu cyfrannu ar y cae i'r Bala eleni, mae wedi parhau i ddilyn y clwb wrth iddyn nhw frwydro yn uchelfannau'r gynghrair a herio'r Seintiau Newydd a Chei Conna ar y brig.

Mae'r clwb hefyd wedi bod yn gefn iddo ef drwy ei driniaeth, rhywbeth mae'r chwaraewr ei hun yn awyddus i gydnabod.

"Mae Bala 'di bod yn absolutely fantastic," meddai Gosset. "Mae'r gefnogaeth dwi 'di cael ganddyn nhw, dwi'm yn gwybod lle fyswn i hebddyn nhw."