Trafod cynnal gŵyl gerddorol newydd ar stad Y Faenol
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau eu bod mewn trafodaethau allai olygu bod gŵyl gerddorol newydd yn cael ei chynnal ar stad Y Faenol ger Bangor.
Roedd Gŵyl y Faenol, gafodd ei sefydlu gan Bryn Terfel, yn ddigwyddiad blynyddol oedd yn denu torfeydd yn eu miloedd cyn iddi ddod i ben yn 2008.
Dros y blynyddoedd fe wnaeth cantorion megis Shirley Bassey ac Andrea Bocelli, bandiau fel Westlife a Girls Aloud, a cherddorion Cymraeg amlwg berfformio ar lwyfan yr ŵyl.
Mae'r awdurdod lleol nawr yn cynnal trafodaethau â "hyrwyddwyr adnabyddus" er mwyn ceisio "sefydlu digwyddiad cerddorol yn y Faenol" yn 2020/21.
Mewn adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i gabinet y cyngor ddydd Mawrth, maen nhw hefyd yn cadarnhau eu bod eisiau cydweithio gyda Llywodraeth Cymru a Phortmeirion ar ddigwyddiad nawr "yn seiliedig ar olau".
Mae'n rhan o ymdrechion y cyngor i ddenu mwy o ddigwyddiadau mawr i'r ardal gan gynnwys rasys triathlon, beicio mynydd a rhedeg, yn ogystal ag atyniadau fel Gŵyl Fwyd Caernarfon.
"Rydyn ni mewn trafodaethau gyda nifer o sefydliadau a phartneriaid eraill am ystod eang o ddigwyddiadau i'w cynnal ar hyd a lled Gwynedd," meddai llefarydd.
Cafodd Gŵyl y Faenol ei sefydlu yn 2000, ac ar ei hanterth yn 2006 fe wnaeth hi ddenu 35,000 o ymwelwyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2018