'Llwybr heriol' tuag at y Chwe Gwlad

  • Cyhoeddwyd
Alun Wyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alun Wyn Jones bod "yna ychydig yn fwy o bethau i ni addasu i"

Wrth i Bencampwriaeth Chwe Gwlad 2020 gael ei lansio'n swyddogol, mae capten tîm rygbi Cymru, Alun Wyn Jones, wedi rhybuddio fod "llwybr heriol" o flaen enillwyr pencampwyr y llynedd yn dilyn ymadawiad Warren Gatland.

Mae prif hyfforddwr newydd tîm Cymru, Wayne Pivac, wedi bod wrth y llyw ers i Gatland ymadael ar ôl 12 mlynedd yn y swydd.

Dywedodd Jones: "Mae'n mynd i fod yn llwybr heriol a dydyn ni methu osgoi hynny.

"Mae lot o newid wedi digwydd ac mae'n rhaid i ni, i ryw raddau, dorri ein cysylltiadau gyda hwnna.

"Os rydym ni'n parhau i edrych am yn ôl, byddwn ni'n arafu ein hunain i lawr. Os ydyn ni am esblygu, mae yna ychydig yn fwy o bethau i ni addasu, a dyna beth rydyn ni eisiau gwneud.

"Byd Wayne yw e nawr a dwi'n edrych ymlaen at beth sydd i ddod."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Louis Rees-Zammit ar gael ar gyfer gêm gyntaf Cymru yn erbyn yr Eidal

Cadarnhaodd Wayne Pivac y bydd Louis Rees-Zammit, yr asgellwr 18 oed sy'n chwarae i Gaerloyw, ar gael i chwarae yng ngêm gyntaf Cymru yn erbyn yr Eidal dydd Sul.

Cafodd Rees-Zammit ei anafu yn ystod y gêm yn erbyn Toulouse ddydd Sul diwethaf.

Ond dywedodd Pivac: "Mae Louis wedi bod yn cydweithio'n dda gyda'r tîm meddygol a bydd e nôl yn hyfforddi bore dydd Mercher, ac yn gwneud bach o redeg gyda'r bechgyn.

"Bydd e'n mynd yn ôl i'w glwb y penwythnos hwn a bydden ni'n cael e nôl wythnos nesaf."

Ond does dim disgwyl i Liam Williams, sydd heb chwarae ers anafiad i'w bigwrn yn ystod Cwpan y Byd, ddychwelyd i chwarae i dîm Cymru tan ail gêm Cymru yn erbyn Iwerddon.