Croeso yn Harlech wedi i wasanaeth post gael ei adfer

  • Cyhoeddwyd
Gwynfor Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gymuned leol yn gwerthfawrogi cael gwasanaeth swyddfa bost unwaith eto yn y dref, medd Gwynfor Williams

Gall adfer y gwasanaeth post yn nhref Harlech arwain at hwb economaidd yn lleol, yn ôl un postfeistr.

Fe gollodd y dref ei swyddfa bost cyn y Nadolig ond bellach mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnig mewn swyddfa dros dro ddwywaith yr wythnos mewn caffi lleol.

Yn ôl ffigyrau swyddogol, mae mwy o swyddfeydd post wedi cau yng Nghymru yn ystod y 10 mlynedd diwethaf nag mewn unrhyw ran arall o Brydain.

Dywedodd y postfeistr, Gwyndaf Williams fod rhagor o gyfleusterau yn annog pobl i wario, a bod y gymuned wedi croesawu'r gwasanaeth dros dro newydd.

"Yr ymateb dwi'n cael ydy pa mor werthfawrogol ydy pobl fod y gwasanaeth yn ôl yn Harlech," meddai.

"Maen nhw wedi ei golli ac felly'n falch ei fod yn ôl."

Disgrifiad o’r llun,

Offer pwyso parseli a llythyrau yn y swyddfa dros dro

Mae'r swyddfa dros dro yn cynnig gwasanaethau post a bancio.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae 930 o swyddfeydd post ar draws Cymru.

Tra bod y ffigwr yna wedi aros yn gyson dros y pum mlynedd diwethaf, mae'r nifer wedi gostwng ychydig dros 5% yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.

Mae'r gostyngiad hwnnw'n rhoi llai o resymau i bobl ddod i'r stryd fawr, meddai Mr Williams, ac "mae busnesau lleol yn dioddef".

"Gyda mwy o gyfleusterau, mae pobl yn dod ac yn gwario arian mewn siopau gwahanol."

Mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnal rhwng 10:00 a 12:00 ddydd Llun a dydd Mercher.