Yr asgellwr Owen Lane i fethu'r Chwe Gwlad oherwydd anaf
- Cyhoeddwyd
Mae'r asgellwr Owen Lane wedi cael ei ryddhau o garfan Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, wedi iddo ddioddef "anaf sylweddol" i linyn y gar yn ystod sesiwn ymarfer.
Mae'r chwaraewr 21 oed, sy'n chwarae i'r Gleision, wedi ennill dau gap dros ei wlad, ac fe sgoriodd gais yn ei gêm gyntaf yn erbyn Iwerddon ym mis Awst 2019.
Hyd yma, nid oes chwaraewr arall wedi ei alw i gymryd lle Lane.
Mae'r asgellwyr eraill sydd yng ngharfan Cymru ar hyn o bryd yn cynnwys Josh Adams, George North, Leigh Halfpenny, Louis Rees-Zammit a Johnny McNicholl.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru fod disgwyl i asesiadau pellach gael eu cwblhau yn ystod yr wythnos nesaf i weld pa mor ddifrifol yw'r anaf.
Fe fydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch yn y Chwe Gwlad yn erbyn yr Eidal ddydd Sadwrn 1 Chwefror.