Lori ar dân yn cau rhan o'r A55 yn Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid cau rhan o ffordd yr A55 fore dydd Llun wedi i lori fynd ar dân.
Cafodd criwiau tân eu galw o Dreffynnon a'r Rhyl pan aeth y cerbyd ar dân ger cyffordd 31 yr A55 yn Sir y Fflint am 08:27.
Bu'r ffordd ynghau'n llwyr i gyfeiriad y dwyrain am rai oriau i gan fod tanwydd ag olew ar y ffordd, cyn iddi ailagor am tua 11:30.
Roedd ceir yn ciwio'n ôl at Allt Rhuallt o ganlyniad i'r digwyddiad, ac fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru gofyn i deithwyr osgoi'r ardal am y tro.