40 o ardaloedd i elwa o fand eang mwy cyflym

  • Cyhoeddwyd
Openreach

Mae dros 40 o drefi a phentrefi yng Nghymru wedi cael gwybod y byddan nhw'n cael mynediad i wasanaeth band eang cyflym a dibynadwy yn gynt na'r disgwyl.

Ardaloedd gwledig sy'n anodd eu cyrraedd sydd wedi eu dewis gan Openreach, gyda hanner o'r rhain y Sir Gâr.

Mae'r cynllun yn un ledled y DU, gan dargedu dros 255,000 o gartrefi a busnesau.

Bydd y gwaith yn dechrau yn y 14 mis nesaf.

Un o'r llefydd fydd yn elwa ydi Dre-fach, ger y Tymbl yng nghwm Gwendraeth.

Yno, roedd y rhan fwyaf yn croesawu'r newyddion am y buddsoddiad.

Disgrifiad,

Barn pobl Dre-fach, Llanelli

Yn ôl Openreach, adeiladu rhwydwaith ffibr llawn a fydd yn gyflymach a dibynadwy yw'r bwriad.

Mae'r cwmni yn dweud fod gwaith ymchwil diweddar yn awgrymu y byddai cysylltu pawb yng Nghymru i fand eang ffibr llawn erbyn 2025 yn werth bron i £2biliwn i economi Cymru.

"Ni'n gobeithio erbyn yr haf y bydd cartrefi a busnesau cyntaf yn gallu archebu band eang ffibr cyflym iawn," meddai Eurig Thomas, pennaeth cyfathrebu Openreach yng Nghymru.

Dywedodd Mr Thomas fod cyhoeddiad diweddaraf yn ategu'r gwaith mae Openreach yn "gwneud yn barod i ymestyn band eang ffibr ar draws Cymru.

"Heddiw mae 95% o Gymru yn gallu cael e'n barod- ond ni'n ymwybodol bod 5% sydd dal yn aros ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i weld beth ni'n gallu wneud i gysylltu'r cartrefi yna."

Disgrifiad o’r llun,

Huw George - pryder fod ardaloedd yn cael eu anghofio

Mae pobl ardal Mynachlog-ddu yn Sir Benfro wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd am well band eang - ond nid ydynt ar y rhestr diweddara.

Dywedodd y cynghorydd sir lleol Huw George ei fod am i Openreach roi sylw i ardaloedd fel Mynachlog-ddu lle nad oes gwasanaeth o gwbl.

"Y broblem yw bob cam maen nhw mynd ymlaen yn rhywel arall rydyn ni yn cael ein gadael ar ein hol.

"A ni'n teimlo ym Mynachlog-ddu bod y byd mawr yn symud ond i ni bob tro ar waelod y rhestr - ac mae'n hen bryd i Openreach sylweddoli fod pobl ym Mynachlog ddu sy'n methu gweithio, y plant yn methu gwneud gwaith cartref oherwydd, s'dim gwasanaeth yma o gwbl."