82 o weithwyr ffatri batris 'wedi eu diswyddo'

  • Cyhoeddwyd
Cwmni EnerSysFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni EnerSys wedi ei leoli ar ystâd ddiwydiannol i'r de o Gasnewydd

Mae undeb Unite yn dweud bod 82 o weithwyr mewn ffatri sy'n cynhyrchu batris wedi clywed bod eu cytundebau wedi cael eu canslo.

Yn ôl yr undeb ni chafodd y gweithwyr yn ffatri EnerSys yng Nghasnewydd rybudd o flaen llaw y bydd y cwmni'n rhoi'r gorau i'w cyflogi.

Nid yw cwmni EnerSys wedi ymateb i honiadau'r undeb.

Dywedodd Dave Gunter, swyddog rhanbarthol Unite: "Mae'r penderfyniad gan EnerSys i ddod â chyflogaeth 82 o'i weithlu dros dro i ben yn ergyd enfawr i'r gweithwyr a'u teuluoedd.

"Mae hefyd yn newyddion drwg iawn i economi ehangach de-ddwyrain Cymru.

"Mae EnerSys wedi delio â'r sefyllfa hon mewn ffordd warthus, gyda gweithwyr yn cael ychydig neu ddim rhybudd eu bod ar fin colli eu swyddi.

"Daeth llawer ohonynt i'r gwaith i gael gwybod na fyddai eu hangen y diwrnod canlynol."

Mae gan y cwmni ffatrïoedd ledled y byd, ac maen nhw'n cynhyrchu batris ar gyfer gwahanol ddiwydiannau.