O Lanelli i Miss Universe
- Cyhoeddwyd
"Fi'n credu bod lot fawr o ferched sy'n cystadlu mewn 'pageants' wedi teimlo bod dim lle arall iddyn nhw - a fi yn un ohonyn nhw."
Pan oedd Miss Prydain Fawr 2019 - Emma Jenkins - yn ei harddegau ac yn tyfu fyny yn Llanelli, doedd hi ddim bob tro'n teimlo ei bod hi'n perthyn.
Doedd hi ddim yn rhagori mewn unrhyw faes ac fe gafodd gyfnodau o unigrwydd. Ddeng mlynedd yn ôl fe newidiodd ei byd pan ddechreuodd ei diddordeb mewn cystadlaethau harddwch.
"Do'n i ddim yn dda iawn mewn chwaraeon o gwbl - o'n i ddim yn gallu rhedeg yn gyflym a doedd dim byd o'n i'n rili da yn wneud," meddai Emma, sy'n dal i fyw yn nhre'r sosban.
"Ro'n i yn licio canu ac actio, ond roedd wastad rhywun oedd yn well na fi a do'n i ddim yn star pupil na unrhywbeth fel yna.
"Roedd 'da fi i grŵp o ffrindiau oedd yn ffrindiau da iawn i fi ond doedden nhw ddim mo'yn mynd mas i ddawnsio a mynd i ddisgos, a ddim mewn i wisgo makeup a gwisgo lan ac wedyn doeddwn i ddim yn ffitio fewn gyda'r merched oedd yn.
"Mae pobl yn dweud 'mae'n siŵr bod ti'n really popular yn ysgol a phawb yn ffansio ti'. Na, dim o gwbl. Roedd ffrindiau agos fi'n cael eu bwlio a doeddwn i ddim yn y grŵp cŵl o gwbl.
"Doedd unman o'n i'n ffitio mewn - ond mae'r pasiant yn rhoi'r slot yna i ferched fel fi ac mae wedi newid fy hyder, a newid y ffordd fi'n gweld fy hun a gweld y byd, a bod yn onest."
Fe ddechreuodd gystadlu pan oedd hi'n 16 oed.
Ar ôl magu profiad, enillodd Miss Cymru 2015 a Miss Prydain 2019 - oedd yn agor y drws iddi geisio am deitl Miss Universe.
Bu camerâu S4C yn ei dilyn y llynedd, yn cynnwys ei ffilmio yn y gystadleuaeth fawr yn yr Unol Daleithiau.
Roedd hi'n un o 90 o ferched o bedwar ban byd oedd yn cymryd rhan yn Miss Universe, gafodd ei ennill gan Miss De Affrica.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Nid edrych yn ddel yn unig sy'n ennill pwyntiau mewn pasiantau harddwch erbyn heddiw.
Yn Miss Universe mae'r cystadleuwyr yn cael cyfweliad, maen nhw'n gorfod profi eu bod yn ceisio cadw'n iach ac ateb cwestiynau o flaen cynulleidfa am faterion y byd - o wleidyddiaeth i gwestiynau moesol.
Mae disgwyl iddyn nhw hefyd gasglu arian at achosion da, ac aeth Emma draw i India yn ddiweddar i gyfarfod rhai o'r bobl oedd wedi elwa o'i gwaith elusennol hi a'i chyd-gystadleuwyr.
Cyfarfod merched gyda chreithiau asid
Meddai: "Yn India mae sut mae merched yn edrych hyd yn oed yn fwy pwysig nag yw e yn y wlad yma. Roedd un ohonyn nhw, roedd ei thad wedi taflu asid drosti pan oedd hi'n ddwy flwydd oed gan fod e mo'yn mab nid merch."
Roedd gweld gwaith Stop Acid Attacks yn brofiad emosiynol, meddai, a'r ffordd roedd y menywod wedi goroesi a gwneud y mwyaf o'u bywyd wedi cael effaith arni.
"Mae e wedi dangos i fi bod fy mywyd i mor rhwydd i gymharu gyda beth mae'r merched yma wedi dod drwyddo," meddai Emma. "Fi'n codi bob bore a dweud 'os maen nhw'n gallu chwerthin a gwenu a dawnsio fi'n gallu chwerthin a gwenu a dawnsio bob dydd'.
"Hefyd mae o wedi newid y ffordd fi'n deall prydferthwch. Mae mam fi wedi dysgu fi be' sydd tu fewn sy'n cyfri a fi'n gwybod hynny ond mae'r merched yma... dwi methu esbonio'r prydferthwch sy'n dod mas ohonyn nhw.
"Maen nhw'n chwerthin a gwenu ac mae'r cariad tu fewn iddyn nhw yn dod mas fel goleuni. Wnaeth nhw hollol newid y ffordd fi'n gweld prydferthwch."
Felly ydi hynny wedi newid ei barn am basiantau harddwch, sydd er gwaetha'r newidiadau dros y degawdau, yn dal i roi marciau i ferched am sut maen nhw'n edrych?
Na, meddai hi, gan mai nid y pasiantau ydi'r broblem:
"Oes un o'r merched yma o India erioed wedi trio? Falle bod lle iddyn nhw - pwy sydd i ddweud bod nhw ddim am ennill. Os ti'n edrych ar y rheolau does dim un rheol ynglŷn â sut i edrych a pa size dillad.
"Mae i gyd am hyder a roadblocks ni'n rhoi yn ffordd ni'n hunain. O'n i bron heb gystadlu achos fi ddim yn teimlo bod fi yn ddigon da.
"Mae'r merched yn India yn rhai o'r rhai mwyaf hyderus dwi erioed wedi cyfarfod ac yn dwli ar pageants hefyd."
Ymddeoliad... a'r cam nesaf
A'r dyfodol? A hithau'n 27 oed ac wedi cystadlu yn y brif gystadleuaeth, mae'n amser ymddeol o ornestau harddwch.
Gyda chefndir o weithio yn y byd teledu, ei breuddwyd ydi cyflwyno. Mae hi hefyd yn gobeithio elwa o'r diddordeb wnaeth hi ei feithrin wrth baratoi at gyfweliadau y cystadlaethau harddwch - sef materion cyfoes y byd.
Meddai: "Heb pageants fyddai gen i ddim cliw beth sy'n mynd ymlaen yn y byd - fi mond wedi byw yn yr un tŷ yn Llanelli ers 27 mlynedd - ond nawr fi'n deall mwy a fi'n prowd o hynny.
"Ar y dechrau ar gyfer y pageants oeddwn i'n dysgu am y byd, maen nhw mo'yn merched sy'n deall beth sy'n digwydd nid jest yn eu cymunedau nhw ond yn y byd. Erbyn hyn fi mo'yn gwybod - mae'n rhywbeth naturiol i fi.
"Fi mo'yn defnyddio'r platfform yma i ddysgu mwy o bobl ifanc am faterion pwysig y byd. Fi mo'yn i bobl feddwl 'dwi eisiau gwybod mwy am hwn achos fi wedi gwylio rhaglen Emma Jenkins'."
Hefyd o ddiddordeb: