Dedfryd hir i fachgen am geisio llofruddio cyd-ddisgybl
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad mewn coridor yn Ysgol Uwchradd Eirias, Bae Colwyn
Mae bachgen 16 oed wedi cael dedfryd o wyth mlynedd dan glo a phedair arall ar drwydded wedi i lys ei gael yn euog o geisio llofruddio cyd-ddisgybl mewn coridor ysgol.
Roedd y bachgen wedi gwadu'r cyhuddiad gan honni mai anafu, nid lladd, oedd ei fwriad wrth ymosod ar fachgen arall ar hap yn Ysgol Uwchradd Eirias ym Mae Colwyn fis Chwefror y llynedd.
Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands bod yr achos yn "peri gofid mawr" ac mai lwc yn unig oedd i gyfrif am y ffaith na laddodd y bachgen arall wrth ei drywanu yn ei ysgwydd, ar ôl anelu at ei wddf.
Ychwanegodd fod "dim amheuaeth" bod yna "risg sylweddol" y gallai'r bachgen, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, achosi "niwed difrifol" i'r cyhoedd.
"Yn anffodus, rwyf wedi dod i'r casgliad eich bod yn droseddwr peryglus" meddai'r barnwr wrth ddedfrydu'r diffynnydd.
"Rwyf yn cael fy arwain i'r safbwynt eich bod yn parhau yn ddyn ifanc cythryblus iawn sydd wedi hel meddyliau am niweidio, yn wir o ladd rhywun - meddyliau aethoch ati i'w gwireddu'r bore hwnnw fis Chwefror y llynedd."
Anafu anifeiliaid
Clywodd Llys Y Goron Yr Wyddgrug bod y diffynnydd wedi byw trwy'r trawma o weld ei fam yn marw o'i flaen pan roedd yn 10 oed.
Roedd wedi hel meddyliau ynghylch lladd rhywun, gan gynnwys aelod o'i deulu, ac yn y cyfnod cyn yr ymosodiad roedd wedi curo oen i farwolaeth cyn ei foddi, ac wedi trywanu buwch.
Roedd lluniau CCTV yn ei ddangos yn ailagor ei gyllell cyn ailfeddwl wedi i'r dioddefwr gyrraedd ystafell ddosbarth.
Dywedodd wrth gael ei holi nad oedd eisiau lladd y bachgen o flaen disgyblion eraill.

Dyma'r gyllell a ddefnyddiodd y diffynnydd i drwyanu ei gyd-ddisgybl
Ddiwrnod yr ymosodiad, ag yntau â photel o wisgi a chyllell yn ei feddiant, cafodd ei ddanfon o'i ddosbarth am gamymddwyn.
Wrth aros i weld y dirprwy bennaeth, dywedodd wrth ddisgybl arall ei fod eisiau trywanu athro.
Cymrodd y dirprwy bennaeth y wisgi oddi arno, ac roedd yr erlyniad yn dadlau mai dial am hynny roedd o pan drywanodd disgybl oedd yn digwydd mynd heibio wrth adael gwers gerdd.
"Fe wnaethoch chi benderfynu bwrw eich rhwystredigaeth arno fo, er nad oedd wedi gwneud dim byd i chi," meddai'r barnwr.
Dim emosiwn
Plediodd y diffynnydd yn euog i gyhuddiadau o anafu'n fwriadol, a mynd â chyllell i'r ysgol ar ddau achlysur.
Cymrodd y rheithgor 48 munud i'w gael yn euog o geisio llofruddio fis Hydref diwethaf.
Dangosodd y diffynnydd ddim emosiwn wrth gael ei ddedfrydu, ond mewn llythyr personol i'r barnwr, fe ofynnodd am ail gyfle gan ddweud ei fod wedi aeddfedu erbyn hyn a bod ei iechyd meddwl yn gwella.
Dywedodd y barnwr y byddai'r ddedfryd wedi bod yn isafswm o 15 mlynedd o garchar yn achos oedolyn,
Bydd y bachgen yn cael ei wahardd rhag mynd yn agos at y dioddefwr na'r ysgol am 10 mlynedd.
Dywedodd seiciatrydd wrth y llys nad oedd salwch meddwl arno, ond roedd yn fachgen deallus oedd heb amlygu empathi nag edifeirwch ynglŷn â'r ymosodiad.
Cafodd ddedfryd o wyth mlynedd dan glo, a phedair blynedd ychwanegol ar drwydded, sy'n golygu gorfod dychwelyd i'r ddalfa petai yna bryderon yn codi yn ei gylch, ond bydd ond yn cael ei ryddhau pan fo'r bwrdd Parôl o'r farn bod hi'n ddiogel i wneud hynny.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2019