Dyn wedi ei arestio wrth i'r chwilio barhau am ddyn coll

  • Cyhoeddwyd
Michael O'LearyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael O'Leary o Nantgaredig wedi bod ar goll ers dydd Llun

Mae dyn 52 oed wedi cael ei arestio fel rhan o ymchwiliad i ddiflaniad dyn 55 oed o'i gartref yn Sir Gâr ddechrau'r wythnos.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar unrhyw un sydd wedi gweld Michael O'Leary, o Nantgaredig, ers dydd Llun, neu sydd â gwybodaeth berthnasol, i gysylltu â nhw.

Dywedodd llefarydd: "Mae dyn 52 oed o ardal Caerfyrddin wedi cael ei arestio o ganlyniad i ymholiadau ac mae'n parhau yn y ddalfa.

"Mae'r teulu wedi cael gwybod am y datblygiad yma ac yn cael cefnogaeth swyddogion arbenigol."

Chwilio Afon Tywi

Mae'r heddlu, cŵn heddlu, y gwasanaeth tân ac achub a thîm achub mynydd oll wedi bod yn chwilio amdano.

Cafodd car Mr O'Leary ei ganfod yn ardal Capel Dewi, ac mae swyddogion yn holi o ddrws i ddrws yn yr ardal honno hefyd.

Dywedodd yr heddlu bod ardal y chwilio yn cynnwys coetir ac Afon Tywi a'i glannau o Gapel Dewi hyd at Gaerfyrddin, a bod deifwyr arbenigol Heddlu De Cymru yn rhan o'r ymdrech.

Mae teulu a ffrindiau hefyd wedi bod yn rhan o'r ymgyrch i ganfod Mr O'Leary, gan gael eu tywys gan y tîm achub mynydd.

Mae'r llu'n awyddus i siarad ag unrhyw un a deithiodd rhwng Capel Dewi a Chaerfyrddin rhwng 20:05 a 22:30 nos Lun, 27 Ionawr.