Y merched sydd ar goll o hanes llenyddiaeth Cymru
- Cyhoeddwyd
"Roedd ganddi'r ddawn i roi bywyd a symud ac ystum i'w chymeriadau - dawn a fu'n brin ymysg arlunwyr llyfrau plant, gynt ac wedyn yng Nghymru. Fel Walt Disney, medrai roi peth o gymeriad naturiol yr anifail yn ei bersonoliaeth. Pe bai wedi dymuno hynny, medrai fod wedi datblygu'n gartwnydd llwyddiannus gan mor gynnil a llawn ystyr oedd ei llinellau hi'n aml."
Dyma eiriau'r artist Ifor Owen, Llanuwchllyn, am Eirys Edwards, gwraig sylfaenydd yr Urdd, Syr Ifan ab Owen Edwards.
Mae ei dawn fel arlunydd wedi dod i'r golwg wedi i'w wyres, yr awdures ac actores Mari Emlyn, gychwyn pori drwy ei hanes.
Meddai Mari: "Rhyw fyrath a sbïo ar hanes llenyddiaeth Gymraeg i blant o'n i a dod ar draws enw fy nain yn rhai o'r erthyglau 'ma.
"Gweld yn gynta' rhai o'r cartŵns, a mopio arnyn nhw, a gweld y llythrennau EE ar waelod y llun, a sylweddoli ma' Nain oedd hon, Eirys Edwards. Ac er bo' fi'n gwybod ei bod hi wedi astudio yn y coleg celf yn Lerpwl, do'n i 'rioed wedi gwybod bod hi cweit mor ddawnus â hyn."
Diffyg cydnabyddiaeth
Roedd Eirys Edwards wedi bod i goleg celf yn Lerpwl, a hi oedd yn gwneud y darluniau i gylchgronnau cynnar yr Urdd gan gynnwys Cymru'r Plant a Cymru'r Plant Bach. Roedd yn arwyddo'i henw gyda'r blaenlythrennau EE am Eirys Edwards.
Meddai Mari: "Mi 'nath hi gyfarfod fy nhaid yn 1921 dw i'n meddwl, priodi'n fuan wedyn - ac wrth gwrs, yn ôl confensiwn, fel gwraig briod, doedd ganddi hi ddim gyrfa wedyn.
"Mewn ffordd ei gyrfa hi oedd helpu'n nhaid efo sefydlu'r Urdd, ac wrth gwrs, cyfrannu efo'r cartŵns 'ma. Felly doedd hi'n sicr ddim yn wraig segur, ond dydan ni ddim wedi cael clywed am ei chyfraniad hi."
Bathodyn yr Urdd
Cadwodd Eirys Edwards ei dawn fel arlunydd yn dawel. Hi gynlluniodd fathodyn cyntaf yr Urdd yn 1922, cyn i R.L. Gapper gynllunio'r bathodyn trionglog rydyn ni'n ei adnabod heddiw.
Disgrifiodd Syr Ifan y bathodyn cyntaf hwnnw yn ei lythyr at blant Cymru, a gychwynnodd yr Urdd: "Fe sefydlwn Urdd newydd, a cheisiwn gael pob Cymro a Chymraes o dan ddeunaw oed i ymuno â hi, a galwn ein hurdd yn 'URDD GOBAITH CYMRU FACH'… Fe fydd gan bob aelod fathodyn a thystysgrif… mae'r bathodyn yn un hardd, llun y Ddraig Goch ar y canol, a'r darian, a lliw gwyrdd fel gwyrdd y caeau yn y gwanwyn o'i chwmpas, ac o amgylch y cwbl ceir cylch, ac ar y cylch - URDD GOBAITH CYMRU FACH."
Fel llawer o fenywod eraill o'r cyfnod, roedd Eirys Edwards yn cuddio y tu ôl i'w blaenlythrennau ac felly does dim cydnabyddiaeth wedi bod o'i dawn a'i chyfraniad, yn ôl Mari: "Mae'n rhyfeddol dydi. Dwi ddim yn gwybod ai cuddio oedd hi, 'ta gafodd hi ei chynghori i beidio rhoi ei henw.
"Ddigon posib, doedd hi'm yn chwilio am sylw beth bynnag.
"Mae merched, yn fwriadol falle, wedi cael eu hepgor o hanes llenyddiaeth Gymraeg ac mae'n dal i ddigwydd. Pan ti'n meddwl am JK Rowling sy'n un o'r awduron enwoca' sy'n bodoli ac sydd wedi defnyddio ei blaenlythrennau.
"'Dan ni'n gwybod ei bod hi'n ddynes erbyn hyn, oherwydd ei henwogrwydd hi, ond pan ddaeth llyfrau Harry Potter allan gynta', doedden ni ddim yn gwybod os mai dyn 'ta dynes oedd hi.
"Nid hi 'naeth y penderfyniad yna mae'n debyg - y wasg 'naeth gyhoeddi Harry Potter 'naeth awgrymu wrthi hi i ddefnyddio blaenlythrennau, oherwydd bo' nhw ofn y basai hogiau ddim isho prynu llyfr wedi ei 'sgwennu gan ddynes.
"Mae 'na dipyn o ffordd i fynd eto does..."
Menywod yn llenyddiaeth Cymru
Ac, yn ôl Mari, mae'r un peth yn wir am fenywod yng Nghymru: "Ymchwilio i lenyddiaeth plant o'n i, a dod ar draws lot o ferched o'n i'n ymwybodol ohonyn nhw, merched fel Moelona - 'naeth hi gyhoeddi Teulu Bach Nant Oer yn 1913, ac mi o'dd y nofel yma i blant yn bestseller. Mi werthodd hi dros 30 mil o gopïau.
"Unrhyw un ohono ni sy'n 'sgwennu llyfrau yn Gymraeg heddiw, 'sa ni'n gwerthu hanner hynny, 'sa ni'n hapus iawn. Ond pan 'dach chi'n edrych yn llyfr Hanes Ein Llên gan Syr Thomas Parry, does 'na'm sôn amdani."
Mae hyn yn wir am nifer o ferched ym myd llên, yn ôl Mari, gan gynnwys Eluned Morgan, Fanny Edwards, Sara Maria Saunders a Cranogwen (Sarah Jane Rees): "'Dan ni yn gwybod dipyn am Cranogwen, diolch i bethau fatha cyfres S4C Mamiaith ac ati.
"O'dd gen i ddiddordeb yn Cranogwen, achos roedd hon yn goblyn o ddynes. O'dd hi'n addysgwr, yn fardd, yn olygydd Y Frythones, ond 'nath hi hefyd sefydlu - yn 1859 - ysgol forwriaeth yn Llangrannog.
"Dwyt ti ddim yn cysylltu dynes yn 1859 [efo dysgu dynion i fordwyo] - mae'n anhygoel dydi. A bo'n ni ddim yn gwybod mwy amdani hi. Mi 'nath hi guro Islwyn a Ceiriog yn y gystadleuaeth farddoniaeth yn Steddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1865.
"Does dim sôn amdani yn Hanes Ein Llên... ond wrth gwrs, mi oedd Islwyn ac mi oedd Ceiriog."
Trysor
Un rhodd i'w thrysori gafodd Mari gan ei nain oedd llyfr am hanes dodrefn y tŷ a'r teulu, wedi ei ysgrifennu yn llawysgrifen ei nain.
Meddai Mari: "Dwi'n cofio Nain yn iawn, ond ma' rhywun yn teimlo peth chwithdod mewn ffordd, pam 'swn i'm 'di holi hi fwy. Mae rhywun yn cicio'i hun, fel mae rhan fwyaf ohonon ni efo ein teidiau a'n neiniau ni, yn difaru na faswn i 'di holi mwy amdani."
Gwrandewch ar y cyfweliad gyda Mari Emlyn ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.
Hefyd o ddiddordeb