Seicosis a fi: 'Angen sgwrs agored a chwalu stigma'
- Cyhoeddwyd
Mae angen sgwrs agored am seicosis er mwyn chwalu'r stigma o gwmpas y salwch meddyliol yn ôl dioddefwr.
Yn ôl Lauren Buxton, sy'n byw yn Abersoch, does dim digon o siarad am y cyflwr wnaeth ei harwain at fod yn ddigartref am sbel.
Dywedodd y gwasanaeth iechyd fod 3% o'r boblogaeth yn profi cyfnodau o seicosis yn ystod eu bywydau.
Fe all seicosis achosi rhywun i golli cysylltiad â realiti ac mae symptomau'n gallu cynnwys clywed lleisiau, gweld pethau nad yw eraill yn eu gweld, a phrofi meddyliau paranoiaidd.
'Neb isio chdi yma go iawn'
"Pryd o'n i'n sâl, byddai'r diwrnod wedi dechrau'r noson gynt oherwydd 'swn i heb gysgu," meddai Lauren, sy'n 23 oed.
"'Sa'r llais 'ma'n dod mewn i'r meddwl ac yn d'eud: 'Ti'n hopeless, ti heb fod i weld dy ffrindiau na dy deulu ers oes'.
"Ac wedyn 'sa fo'n mynd ymlaen i: 'Ti'n dallt does 'na neb isio chdi yma go iawn'.
"O'n i wedi dod at y canlyniad fod y bobl oedd yn meddwl y byd ohonof i yn trio gwneud imi ladd fy hun."
Tra roedd Lauren yn sâl fe dreuliodd gyfnodau mewn ysbytai meddwl fel Hergest ym Mangor ac uned arbenigol ym Manceinion.
"Roedd o'n anodd. Ro'n i mor bell i ffwrdd o fy nheulu a'n ffrindiau. Pawb yn siarad Saesneg.
"Doeddwn i ddim yn 'nabod yr ardal a doedd 'na'm byd i 'neud imi deimlo'n saff," meddai.
'Codi calon'
Ar un cyfnod roedd Lauren mewn ysbyty meddwl am gyfnod o wyth mis ac fe gollodd hi ei thŷ a'i hincwm.
Yn ddiweddarach fe gafodd ei chyfeirio at yr elusen Cyfle Cyf sy'n helpu unigolion ifanc bregus a digartref i ganfod llety.
Dywedodd dirprwy reolwr yr elusen, Jane Watkinson ei bod hi'n "anodd ac mae 'na broses hir i geisio cael tai".
Ychwanegodd: "Mae stori Lauren yn codi calon rhywun o feddwl lle'r oedd hi. 'Da ni'n falch iawn ohoni ac mae pethau mawr o'i blaen."
Erbyn hyn mae Lauren yn byw mewn tŷ a gafodd ei glustnodi iddi drwy gymorth Cyfle ac mae hi wedi trafod ei phrofiad mewn blog ar wefan Meddwl.org [dolen allanol], dolen allanol.
Mae Lauren bellach yn gwirfoddoli gyda'r elusen ac yn gobeithio helpu unigolion sydd mewn angen fel yr oedd hithau.
Am wybodaeth ar fudiadau y gallwch chi gysylltu â nhw am gyngor a chefnogaeth, ewch i bbc.co.uk/actionline.