Teyrnged i ddyn ifanc wedi gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn
- Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn wedi talu teyrnged i "fab, gŵr, tad a brawd tu hwnt o gariadus".
Bu farw Gryffudd Rhun Jones, oedd yn 27 oed ac o ardal Brynaerau, Rhosfawr yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng Llithfaen a Phentreuchaf yn oriau mân fore Sul.
Roedd y digwyddiad toc cyn 01:50 yn ymwneud â char Skoda Octavia du, a bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.
Mewn datganiad dywedodd teulu Mr Jones ei fod yn "fab, gŵr, tad a brawd tu hwnt o gariadus ac mi fydd yn golled enfawr i bawb".
Dywedodd yr heddlu eu bod yn parhau i apelio am dystion i'r gwrthdrawiad, ac y dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2020