Teyrngedau i Evan R Thomas, llefarydd amlwg ar TB
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i Evan R Thomas, llefarydd blaenllaw ar y diciâu yng Nghymru ac aelod amlwg o undeb amaethyddol yr FUW.
Roedd Evan R, fel yr oedd yn cael ei adnabod, yn wyneb ac yn llais cyfarwydd ar y cyfryngau, yn bennaf gan ei fod yn aelod o Fforwm TB Y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd.
Roedd yn aelod oes o Undeb Amaethwyr Cymru ac yn aelod blaenllaw o gyngor llaeth yr undeb.
Rhwng 1962 ac 1965 roedd yn aelod o Fwrdd y Marchnata Llaeth ac yn 1985 cafodd ei anrhydeddu gan y Frenhines am ei wasanaeth i'r byd amaeth.
Wrth siarad â Cymru Fyw am ei atgofion amdano dywedodd Brian Walters, cyn is-lywydd yr FUW: "Roedd Evan yn ddyn arbennig iawn ac yn arbenigwr mawr ar TB.
"Roedd ei wybodaeth yn aruthrol ac roedd tystiolaeth bendant gydag e am y cysylltiad rhwng TB a moch daear."
'Dod â synnwyr i'r ddadl'
Ychwanegodd Mr Walters: "Roedd wastad rhywbeth o werth gan Evan R i'w ddweud - bydden i wastad yn edrych ymlaen i'w glywed yn siarad mewn pwyllgor - mi o'dd e wastad yn dod â synnwyr i'r ddadl.
"Roedd yna barch mawr iddo a byddai fe wastad yn cyflwyno rhyw ongl wahanol ar bethau.
"Roedd e wedi bod yn aelod o bwyllgor llaeth yr FUW am dros 30 mlynedd ac roedd e'n un o aelodau cyntaf Undeb Amaethwyr Cymru.
"Ro'dd e hefyd yn siaradwr cyhoeddus huawdl a lot o alw arno i fynd i siarad mewn ciniawau."
Roedd Evan R Thomas o Lanybri yn 91 oed ac mae'n gadael gwraig a thri o blant.