'Modd ailystyried' cofeb i Carl Sargeant yn y Cynulliad
- Cyhoeddwyd
Mae modd adolygu'r penderfyniad i wrthod gosod cofeb i'r diweddar Carl Sargeant yn y Senedd, yn ôl y Llywydd Elin Jones.
Dywedodd y gallai hynny ddigwydd pe bai mwyafrif o ACau yn cefnogi cynnig o'r fath.
Roedd grŵp trawsbleidiol o aelodau wedi galw am gofeb ar gyfer y cyn-weinidog.
Ond yn ôl y corff sy'n gyfrifol am y Cynulliad, dim ond cynigion ar gyfer ACau fu farw o leiaf 10 mlynedd ynghynt sy'n cael eu hystyried.
Fe wnaeth cyn-AC Alun a Glannau Dyfrdwy ladd ei hun yn 2017, ddyddiau ar ôl cael ei ddiswyddo o gabinet Llywodraeth Cymru yn dilyn honiadau o ymddygiad amhriodol tuag at fenywod.
Dywedodd y Llywydd ddydd Mercher: "Pe bai grwpiau gwleidyddol am gael adolygiad o'r polisi hwn, yna byddwn yn hapus i drafod cynigion ganddynt ac aelodau'r Comisiwn os mai hyn yw dymuniad y Cynulliad hwn."
Mae'r Ceidwadwr Andrew RT Davies wedi bod yn flaengar yn yr ymgyrch i gael cofeb, gan ddweud ei fod yn "siomedig" gyda'r penderfyniad i beidio caniatáu un.
Mae'r AC Llafur Jenny Rathbone hefyd wedi cefnogi'r alwad am gofeb, gan ddweud fod Mr Sargeant yn haeddu cydnabyddiaeth am ei waith caled fel gweinidog ac aelod o'r meinciau cefn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd12 Medi 2019