Marwolaeth sepsis: Meddyg wedi 'camfarnu' sefyllfa
- Cyhoeddwyd
Mae meddyg wedi cyfaddef iddi "gamfarnu" sefyllfa wrth drin bachgen tri mis oed fu farw o sepsis mewn ysbyty yng Nghaerdydd.
Bu farw Lewys Crawford o septisemia meningocaidd yn Ysbyty Athrofaol Cymru ym mis Mawrth 2019.
Dywedodd y meddyg pediatrig Ifeoma Ujomu wrth gwest i farwolaeth y bachgen y dylai fod wedi rhoi dos o wrthfiotig iddo yn gynharach yn ei driniaeth.
Dywedodd Dr Ujomu: "Wrth edrych yn ôl, roedd yn gamgymeriad barn ar fy rhan i."
Ychwanegodd Dr Ujomu ei bod wedi oedi er mwyn cynnal profion cyn rhoi cyffuriau gwrthfiotig i Lewys.
'Prinder meddygon profiadol'
Clywodd y cwest fod prinder "meddygon profiadol y noson honno", ond fe ddywedodd Dr Ujomu ei bod yn hapus fod ymgynghorydd meddygol wedi asesu'r plentyn yn adran gofal brys yr ysbyty.
Dywedodd y meddyg: "Roedd person uchel iawn wedi gweld y baban, ac roeddwn yn hapus nad oedd angen ymyrraeth arall ar y plentyn."
Clywodd y cwest fod Dr Ujomu wedi cymhwyso fel meddyg yn 2008 a bod ganddi gymwysterau, yn cynnwys rhai o Goleg Ffisegwyr Gorllewin Affrica.
Roedd wedi dechrau arbenigo mewn meddygaeth plant yn Nigeria yn 2011 ac fe ddaeth i Brydain yn 2018.
Ar y noson dan sylw, roedd hi wedi gadael y ward plant ac wedi mynd i'r adran gofal brys i drin plentyn arall pan glywodd am gyflwr Lewys gan nyrs.
"Ni ddywedodd fod brys ar unrhyw adeg," meddai Dr Ujomu, a gan ei bod yn trin plant eraill fe "ofynnodd oes oedd person arall ar gael i adolygu cyflwr Lewys".
Ychwanegodd os byddai pryderon wedi bod yna fe fyddai ymgynghorydd wedi cymryd camau pellach.
"Pan welais ef gyntaf roeddwn yn teimlo fod ganddo dymheredd heb ffocws ac fe fyddai angen prawf sepsis llawn arno," meddai.
Roedd hyn yn "gamgymeriad barn" wrth edrych yn ôl ar y sefyllfa, ychwanegodd.
Gofynnodd y Crwner Graeme Hughes iddi os oedd hi'n amau fod gan Lewys sepsis ar y pryd.
Dywedodd y meddyg: "Na nid ar yr adeg honno - doeddwn i ddim yn amau fod gan Lewys sepsis," gan ychwanegu y byddai'r bachgen wedi ymddangos yn fwy sâl os byddai'n dioddef o sepsis.
Ychwanegodd y dylai Lewys fod wedi derbyn cyffuriau gwrthfiotig, a hynny fel cam rhag ofn.
Asesu plentyn arall
Clywodd y cwest fod Dr Ujomu wedi ei galw i asesu plentyn arall "yn syth" ar ôl i Lewys Crawford gyrraedd yr uned gofal.
Doedd y meddyg ddim yn cofio os oedd hi wedi gadael cyfarwyddiadau i eraill am ei ofal, ond ei bod wedi dychwelyd tua 00:30 "ac roedd ei hargraffiadau yr un fath ag o'r blaen".
Fe glywodd y llys fod y geiriau "sepsis posib" wedi ei ysgrifennu yn nodiadau Lewys ar y pryd.
Ond dywedodd Dr Ujomu fod y geiriau hyn wedi eu defnyddio "mewn camgymeriad" ar y pryd, a'r bwriad cywir oedd ysgrifennu "haint bacteria posib".
Dywedodd wrth y cwest fod y gair "sepsis wedi ei ddefnyddio mewn camgymeriad".
Clywodd y cwest fod cyffuriau gwrthfiotig wedi eu defnyddio yn y pen draw am oddeutu 03:30.
Mae'r cwest yn parhau.