Cwyn barnwr dros sŵn ac arogleuon o'r bwyty drws nesaf

  • Cyhoeddwyd
Summer Palace, LlandafFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae bwyty Summer Palace gyferbyn â'r mynediad i erddi Cadeirlan Llandaf

Mae perchennog bwyty Cantonaidd yn wynebu achos llys wedi i farnwr y Llys Apêl symud i'r tŷ drws nesaf a chwyno am yr arogleuon o'r safle.

Kwok Chim, 42, yw perchennog bwyty Summer Palace, sy'n edrych dros erddi hanesyddol Cadeirlan Llandaf yng Nghaerdydd.

Ar ôl prynu'r tŷ drws nesaf yn 2016, fe gwynodd yr Arglwydd Ustus Syr Gary Hickinbottom a'i wraig yr Arglwyddes Georgina Caroline Hickinbottom i Gyngor Caerdydd am y sŵn a'r arogleuon o'r gegin.

Bydd achos llawn yn erbyn Mr Chim, sy'n gwadu dau gyhuddiad o dorri rheolau iechyd yr amgylchedd, yn cael ei gynnal ym mis Ebrill wedi i swyddogion gorfodaeth benderfynu bod yna sail i'w cwyn.

'Niwsans'

Clywodd gwrandawiad yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Iau bod y bwyty, sydd â statws hylendid pum seren, wedi gosod ffan echdynnu newydd heb sicrhau'r caniatâd priodol.

Dywed yr erlyniad bod swyddogion y cyngor "yn fodlon bod [y ffan] yn niwsans" wrth ymweld â'r bwyty'r llynedd, a'u bod wedi methu â chydymffurfio â rhybudd atal sŵn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Kwok Chim yn gwadu dau gyhuddiad o dorri rheolau iechyd yr amgylchedd

Chafodd yr Arglwydd Ustus Hickinbottom, sy'n aelod o'r Cyfrin Gyngor ers 2017, na'i wraig mo'u henwi yn ystod y gwrandawiad.

Mae eu cartref yng Nghaerdydd yn adeilad rhestredig Gradd II gwerth £525,000 ac wedi'i leoli yn ardal gadwraeth Llandaf.

Mae'r cwpwl, sydd hefyd â chartref yn Chelsea, hefyd wedi cwyno am glwb preifat cyfagos - y Llandaff Institute.

Ond mae cymdogion eraill wedi datgan cefnogaeth i'r bwyty.

'Sefyllfa hollol anghredadwy'

Dywedodd y cynghorydd Ceidwadol lleol, Sean Driscoll: "Mae fel prynu tŷ drws nesaf i orsaf reilffordd a chwyno am sŵn y trenau, neu ger buarth fferm a chwyno am arogl yr anifeiliaid.

"Beth nesaf? Ydyn nhw'n mynd i gwyno i'r Gadeirlan am sŵn clychau'r eglwys?

"Mae'r sefyllfa'n hollol anghredadwy. Mae'r Summer Palace wedi troi pob carreg i liniaru'r mater yma.

"Rydym yn hapus i weithio gyda'r ddwy ochor i ddatrys y sefyllfa... gobeithio y bydd yna synnwyr cyffredin."

Dywedodd cymydog arall, oedd yn dymuno aros yn ddienw: "Os ydych chi'n dod i fyw drws nesaf i fwyty Chineaidd, mae'r hurt i chi beidio disgwyl arogleuon.

"Mae Mr Chim wedi gwario £19,857 ar geisio cymodi ac mae'n ymddangos bod hynny dal ddim yn ddigon. Mae eisiau amser i weld sut gellir gwella'r ffan... mae'n cydymdeimlo'n fawr iawn."

'Dicter cyffredinol yn lleol'

Ychwanegodd y cymydog bod y sŵn a'r arogleuon yn "fyrhoedlog" iawn a bod yna "ddicter cyffredinol yn y gymuned bod nhw [y cwpwl] yn gallu achosi gymaint o ofid i bawb".

Dywedodd stiward yn y Llandaff Institute, Marian Tylk, y byddai'n "hollol ysgytwol" pe tasai'r bwyty'n colli'r achos.

"Byddai'n drueni go iawn, rwy'n eithaf gofidus am y peth, mae'n ofnadwy," meddai.

"Mae'r pentref yn marw. Mae'r hyn sy'n digwydd i'r bwyty yn dorcalonnus... chi'n gweld pa mor brysur ydy, mae pawb yn dwlu arno."