Elfyn Evans yn ennill Rali Sweden ddydd Sul

  • Cyhoeddwyd
Elfyn Efans

Mae Elfyn Evans wedi ennill Rali Sweden ddydd Sul gyda thîm Toyota GAZOO Racing WRT.

Yn dilyn y fuddugoliaeth mae ar frig Pencampwriaeth Ralio'r Byd wedi dwy ras.

Roedd pencampwr presennol y byd, Ott Tanak o Estonia, 17 eiliad tu ôl iddo ar ddechrau'r cymal olaf, ond fe wnaeth y Cymro ddigon i gadw ei fantais.

Mae Rali Sweden yn rhan o gymal Pencampwriaeth Ralio'r Byd a hon yw'r ail rali i Evans ei hennill yn y bencampwriaeth, a'r rali gyntaf i'w gyd-yrrwr Scott Martin ei hennill.

Evans yw'r gyrrwr cyntaf o Brydain i ennill Rali Sweden.

Yn dilyn y fuddugoliaeth dywedodd y Cymro fod y tîm "wedi bod yn wych, gan roi popeth yr oedd ei angen i ni ac mae'n bleser gweithio gyda nhw".

Fe wnaeth longyfarch ei gyd-yrrwr ar ei fuddugoliaeth gyntaf hefyd.

Pynciau cysylltiedig