Arian i awdurdodau lleol wedi Storm Dennis
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru yn paratoi i roi arian ychwanegol i awdurdodau lleol yn sgil y difrod a achoswyd gan Storm Dennis.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford brynhawn Sul bod ei lywodraeth yn ymgymryd â "rôl cydlynu" ar y dechrau fel hyn ond y bydd yn trafod ymhellach gydag awdurdodau lleol "yn gynnar yn yr wythnos" er mwyn sicrhau bod "yr help ry'n ni'n gallu ei ddarparu yn eu cyrraedd mewn ffordd mor amserol â phosib".
Ychwanegodd nad oedd trafodaeth wedi bod hyd yma i ofyn am help y fyddin, "gan ein bod wedi llwyddo i ddefnyddio yr holl wasanaethau sydd ganddon ni yn barod".
Fe ddiolchodd i bawb oedd o hanner nos nos Sadwrn, wedi bod allan mewn tywydd dychrynllyd yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu pobl oedd yn wynebu difrod gwaethaf y llifogydd gan hefyd sôn am "ymateb gwych y gymuned".
'Gweld beth sydd angen ei wneud'
Ychwanegodd: "Ond mae'r digwyddiad yma yn ddifrifol. Heddiw ( dydd Sul ) byddwn yn treulio'r diwrnod yn rheoli y sefyllfa, gan ddarparu ymateb brys.
"Erbyn yfory gobeithio, yn ôl y rhagolygon tywydd, byddwn yn gallu dechrau dod dros hyn a gweld beth sydd angen ei wneud i helpu.
"Mae yna niwed i'r isadeiledd ac mae cartrefi unigol wedi cael llifogydd."
"Bydd yna amddiffynfeydd llifogydd, sydd wedi gwrthsefyll y llif, ond nawr sydd angen profion pellach i sicrhau eu bod yn dal yn addas yn y dyfodol.
"Byddwn ni ochr yn ochr â'n cydweithwyr o fewn yr awdurdodau lleol yn sicrhau bod popeth sydd angen ei wneud yn cael ei wneud" ychwanegodd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2020