Dirwy i Blaid Cymru ar ôl methu datgan rhoddion o £500,000
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru wedi cael dirwy o £29,000 am beidio datgan rhoddion ariannol gwerth bron i £500,000.
Dywedodd y Comisiwn Etholiadol fod 36 o'r rhoddion wedi eu hepgor o adroddiadau chwarterol y blaid dros gyfnod o ddwy flynedd.
Bydd yn rhaid iddyn nhw dalu'r ddirwy o fewn y bythefnos nesaf.
Dywedodd Plaid Cymru eu bod nhw wedi "cywiro'r [cofnodion] ar unwaith" ar ôl cael eu hysbysu.
Mae'r rhoddion yn gyfuniad o arian mae gwrthbleidiau'n derbyn gan awdurdodau Tŷ'r Cyffredin am gostau rhedeg swyddfa ac ati, a rhywfaint o gyllid gan y Comisiwn Etholiadol ei hun.
Yn ôl Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 mae "unrhyw daliadau o arian cyhoeddus a dderbynnir gan blaid gofrestredig yn cael ei ystyried yn rhodd a dderbynnir gan y rhoddwr gan roddwr a ganiateir".
Dywedodd y Comisiwn Etholiadol bod Plaid Cymru wedi cyflwyno naw o adroddiadau gwallus dros ddwy flynedd, gan beidio nodi 36 o roddion ariannol gwerth dros £497,000.
Ychwanegodd y Comisiwn fod y blaid wedi adrodd y rhoddion ym mis Mai 2018, a bod ymchwiliadau'n "pwyntio tuag at ddiffyg prosesau mewnol effeithiol, wnaeth arwain at fethiant i ddeall gofynion".
'Diffyg tryloywder siomedig'
Dywedodd Louise Edwards, cyfarwyddwr rheoleiddio'r Comisiwn Etholiadol: "Mae cyfanswm a gwerth y rhoddion gafodd eu hepgor o adroddiadau chwarterol Plaid Cymru yn sylweddol ac mae'n datgelu cryn dipyn o ddiffyg cydymffurfio.
"Mae Plaid Cymru yn blaid sydd wedi'i hen sefydlu a dylai allu cyflawni ei rhwymedigaethau adrodd.
"Mae'n hanfodol bod pleidleiswyr yn gallu gweld cofnodion ariannol llawn a chywir sy'n dangos o ble mae arian plaid wleidyddol yn dod.
"Arweiniodd methiant parhaus Plaid Cymru dros gyfnod o ddwy flynedd i ddeall a chyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol at ddiffyg tryloywder siomedig yng nghyllid y blaid.
"Gall pleidleiswyr fod yn hyderus y byddwn yn gweithredu pan fydd pleidiau'n methu â chydymffurfio â'r rheolau heb esboniad rhesymol."
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae'r materion a amlygwyd gan y Comisiwn yn hanesyddol eu natur ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw roddion preifat.
"Cyn gynted ag y hysbyswyd Plaid Cymru, cywirodd y blaid yr oruchwyliaeth hon ar unwaith ac mae bellach yn cydymffurfio'n llawn.
"Mae'r holl arian cyhoeddus wedi'i adrodd yn llawn yn adroddiad blynyddol y blaid."