Agor pencadlys cwmni rhyngwladol Keolis yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd pencadlys newydd cwmni trafnidiaeth ryngwladol Keolis yn agor yng Nghaerdydd ddydd Gwener.
Mae Keolis yn rhedeg rhwydweithiau trafnidiaeth mewn 21 o ddinasoedd ar draws y byd, ac fe fydd yn un o'r cwmnïau mwyaf i sefydlu pencadlys yng Nghymru.
Mae'r cwmni'n gyfrifol am un o bob tair taith reilffordd yn y DU drwy ei is-gwmnïau, ac fe wnaeth drosiant o £2.5 biliwn yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Y cwmni sydd yn gyfrifol am redeg gwasanaethau rheilffordd Cymru ar y cyd â chwmni Amey ers 2018, o dan yr enw Keolis Amey, ar ôl derbyn cytundeb 15 mlynedd gan Trafnidiaeth Cymru.
Fe fydd pencadlys Keolis yn symud o Lundain i Gaerdydd, gyda'r pencadlys newydd wedi ei leoli yn Sgwâr Callaghan yn y brifddinas.
'Ymrwymiad i fusnes'
Cyn yr agoriad swyddogol, fe ddywedodd prif swyddog y cwmni yn y DU, Alistair Gordon: "Mae Cymru'n lle gwych i leoli ein pencadlys Prydeinig, gyda'i ymrwymiad cryf i fusnes, sgiliau a safon bywyd - wedi ei osod ar y cyd gydag uchelgais eang Trafnidiaeth Cymru a'r gymuned fusnes a thrafnidiaeth ehangach.
"Er bod ganddom bresenoldeb yng Nghymru ers tro byd, mae'n wych gweld ein hymrwymiad i Gymru yn cael ei ymgorffori mewn brics a mortar yn ein pencadlys newydd.
"Rydym yn edrych ymlaen at weithio ar lefel cenedlaethol a rhanbarthol i ddarganfod ffyrdd o gynorthwyo pobl ac economi Cymru i symud ymlaen fel rhan o'n hymrwymiad hir dymor i'r genedl."
Dywedodd y Gweinidog dros Gysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan: "Mae Keolis yn berchen ar y cymwysterau yr ydym yn chwilio amdanyn nhw mewn cwmnïau yr ydym yn gobeithio ei ddenu i Gymru, gan gyfuno arbenigedd rhyngwladol ac uchelgais i ddatblygu ei bresenoldeb a'i weithlu.
"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw, ac eraill, wrth i ni barhau i anfon neges eglur yn rhyngwladol fod Cymru ar agor i fusnes ac yn meddu ar yr arbenigedd ac uchelgais i lwyddo."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd16 Medi 2019