Datgelu cynlluniau £194m i wella gorsafoedd trên Cymru
- Cyhoeddwyd

Trafnidiaeth Cymru sydd wedi bod yn rhedeg gwasanaeth Cymru a'r Gororau ers mis Hydref 2018
Mae'r manylion am sut y bydd pob gorsaf rheilffordd yng Nghymru yn elwa o fuddsoddiad gwerth £194m wedi cael ei gyhoeddi.
Yn ôl Trafnidiaeth Cymru mae'n cynnwys adfywiad mawr o orsaf Abertawe a 1,500 o lefydd parcio ychwanegol ger gorsafoedd ar draws y wlad.
Dywedodd prif swyddog gweithredol Trafnidiaeth Cymru, James Price ei fod "llawer mwy na'r hyn sydd wedi'i wario ar orsafoedd yng Nghymru o'r blaen".
"Yn hollbwysig, bydd lefel llawer uwch o ddiogelwch ar gyfer teithwyr," meddai.
"Mae'r ailddatblygiad o orsaf Abertawe wedi dechrau eisoes, gyda gwell cyfleusterau tocynnau a gofod ar gyfer busnes a grwpiau cymunedol.
"Fe fydd yn brofiad llawer, llawer gwell i gwsmeriaid."

Mae Trafnidiaeth Cymru'n dweud y bydd pob un o'r 247 o orsafoedd yng Nghymru yn gweld gwelliannau
Cafodd y £194m ar gyfer gorsafoedd ei addo pan wnaeth Trafnidiaeth Cymru ddechrau rhedeg gwasanaeth Cymru a'r Gororau ym mis Hydref 2018.
Maen nhw'n dweud y bydd pob un o'r 247 o orsafoedd dan eu rheolaeth yn gweld gwelliannau dros y 15 mlynedd nesaf.
Maen nhw'n gobeithio darparu WiFi am ddim, llochesi gwell, teledu cylch cyfyng, a gwella'r ddarpariaeth storio beics a gwybodaeth i deithwyr ym mhob gorsaf.
Mae perchennog Trafnidiaeth Cymru - Keolis Amey - hefyd wedi addo gwario £800m ar drenau newydd a chynyddu nifer y llefydd ar drenau o ddau draean.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Awst 2019
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2019