Sefydliad troseddwyr ifanc 'gorau Cymru a Lloegr'

  • Cyhoeddwyd
Ystafell gwaith coed Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gweithgareddau sy'n cael eu trefnu ar gyfer y troseddwyr ifanc yn y Parc yn cynnwys gwaith coed

Sefydliad troseddwyr ifanc ger Pen-y-bont ar Ogwr yw'r un sy'n "perfformio orau o bell ffordd" yng Nghymru a Lloegr, yn ôl y prif arolygydd carchardai.

Mewn adroddiad anarferol o gadarnhaol, mae Peter Clarke yn canmol y gweithgareddau sy'n cael eu darparu ar gyfer bobl ifanc 15-18 oed yno.

Ond yn ôl llywodraethwr y carchar, nid yw anghenion y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl yn cael eu diwallu oherwydd diffyg mynediad at wasanaethau'r bwrdd iechyd lleol.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ei fod yn parhau i adolygu'r gwasanaethau sydd eu hangen.

'Safonau uchel mewn amgylchedd heriol'

Mae arolwg blynyddol Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc wedi nodi nifer o ganfyddiadau hynod gadarnhaol, gyda gofal a gweithgaredd pwrpasol yn cael y sgôr uchaf - sef da - a diogelwch ac ailsefydlu carcharorion yn cael sgôr gweddol dda.

"Mae cynnal y safonau uchel yma mewn amgylchedd heriol o warchod plant yn adlewyrchu'n dda iawn ar arweinyddiaeth ac ar waith tîm a gwaith caled pawb oedd yn gyfrifol am y canlyniadau hyn," meddai'r adroddiad.

Ond ychwanegodd nad oedd y gwasanaethau iechyd meddwl yno'n unol â safonau cenedlaethol.

Disgrifiad o’r llun,

Gallai gwella'r gwasanaethau iechyd meddwl helpu atal pobl rhag aildroseddu ar ôl cael eu rhyddhau, yn ôl Janet Wallsgrove

Dywedodd llywodraethwr y carchar, Janet Wallsgrove bod angen llawer mwy o gefnogaeth a chyllid gan fod hyn yn gyfle i "atal pobl rhag troseddu" ar ôl cael eu rhyddhau.

Mae'r sefydliad troseddwyr ifanc ym Mhen-y-bont yn llawn bechgyn sydd wedi eu cael yn euog o lofruddiaeth, dynladdiad a throseddau treisgar iawn ac yn treulio cyfnod hir o dan glo, yn ôl rheolwr yr uned, Jason Evans.

"Dyw hi ddim yn anarferol y dyddiau hyn i berson o dan 18 oed dreulio 20 mlynedd a mwy mewn carchar," meddai. "Roedd hynny'n anarferol iawn 10 mlynedd yn ôl."

Dywedodd bod hyn yn heriol iawn a bod angen rhoi cyfle i'r plant yma fod yn rhan o rywbeth arall er mwyn iddyn nhw beidio ag ymddwyn mewn ffordd dreisgar.

"Mae diwylliant gang ar y tu allan - perthyn - yn beth mawr i'r bechgyn yma, felly rydyn ni'n ceisio dangos iddyn nhw fod yna ffordd wahanol o berthyn," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Ardal gymunedol o fewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc

Canfyddiadau eraill yr adroddiad

  • Roedd ymosodiadau ar staff wedi gostwng 38% - ond roedd y defnydd o rym wedi cynyddu 17%;

  • Roedd ymosodiadau ar blant i lawr 15% - sy'n is na charchardai tebyg;

  • Roedd bwlio i lawr 37% - ond roedd ymladd ymhlith plant wedi cynyddu 92% a'r ymladd yn y Parc yn fwy cyson na charchardai tebyg;

  • Mae ychydig llai na thraean y carcharorion ifanc yn dod o Gymru.

'Gormod i'w golli'

Mae Callum - nid ei enw iawn - yn 17 oed ac wedi bod yn Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc am lai na blwyddyn.

Dywedodd nad oedd wedi llwyddo y tu hwnt i'r carchar ond mae bellach wedi cael TGAU mewn Mathemateg, mae ganddo gymwysterau eraill ac mae yng nghanol astudio Celf a Saesneg.

"Mewn gwaith coed fe wnes i ychydig o bethau i'n nheulu, roedden nhw'n eu hoffi," meddai.

"Rwy'n sylweddoli bod mwy i fywyd na gwneud pethau anghywir... mae gen i ormod i'w golli na dod yma eto".

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna ganmoliaeth i'r ystod o weithgareddau yn y Parc, sy'n cynnwys gwersi celf

Dywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ei fod wedi cael ei gomisiynu i ddarparu peth o'r gofal iechyd i bobl yng Ngharchar Parc, a bod y gofal yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd gan Fwrdd Iechyd Bae Abertawe.

"Mae anghenion iechyd y rhai sydd yn y carchar yn gymhleth ac yn newid yn unol â'r boblogaeth yno ar unrhyw adeg benodol," meddai llefarydd.

"Mae'r problemau iechyd meddwl yn uchel ac mi gafodd Llwybr Iechyd Meddwl newydd ei gyflwyno yn 2018, gyda system atgyfeirio yn blaenoriaethu'r rhai mwyaf anghenus.

"Bydd anghenion iechyd meddwl yn faes i'w adolygu'n barhaus er mwyn i lefel y gwasanaeth sy'n cael ei gomisiynu fod yn ddigonol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru dylai pobl yn y carchar, yn enwedig pobl ifanc, gael mynediad cyfartal at ofal iechyd, fel y rhai yn y gymuned.

Ychwanegodd bod "byrddau iechyd yn parhau i weithio gyda'r Gwasanaeth Carchardai a Phrawf yng Nghymru i wella iechyd a lles mewn carchardai".