Profiad Cymry tramor o'r coronafeirws

  • Cyhoeddwyd

Wrth i'r newyddion am y coronafeirws barhau, a mwy o achosion yn lledu dros y byd, yma mae rhai o'r Cymry sy'n byw yn y gwledydd sydd wedi eu heffeithio, yn esbonio sut mae'r feirws wedi gwneud gwahaniaeth i'w bywydau bob dydd.

Karl Davies - China - "Dydyn ni ddim nôl i'r drefn arferol yma eto"

Ffynhonnell y llun, Karl Davies

Mae Karl Davies yn athro Saesneg yn China, a bu'n siarad ar raglen Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ddydd Mercher. Mae'n disgrifio sut mae'r feirws yn cael effaith ar ei fywyd yn byw yn nhalaith Guangdong o'r wlad:

"Dydyn ni ddim nôl i'r drefn arferol yma eto. Mae lot fawr iawn o bobl yn gweithio o'u cartrefi ac hefyd mae lot o sefydliadau yn dal i fod ar gau.

"'Da ni bell i fod nôl i normal, ond wedi dweud hynny, ddoe, doedd yna yr un achos newydd o'r feirws yn effeithio ar rywun yma, mae arwydd bod normalrwydd yn dychwelyd yn ara' deg.

"Ond mae'n mynd i gymryd lot fawr iawn o amser, hyd yn oed mewn ardal fel talaith Guangdong lle dwi'n byw, lle mae 'na drefn da iawn gan y Llywodraeth yma.

'Profi fy nymheredd bedair gwaith mewn munudau'

"Mae'n cael ei argymell yn gry' iawn ein bod ni yn aros gartref, felly dwi ond yn mynd allan pan dwi'n gorfod mynd i brynu bwyd a hanfodion eraill.

"Fe es i ddoe i'r archfarchnad, ac mae'n rhyw 10 munud o gerdded o fy fflat i.

"Mi ges i brofi fy nymheredd bedair gwaith yn ystod y siwrne yna. Doeddwn i ddim yn cael mynd i mewn i'r ganolfan siopa na'r archfarchnad heb eu bod nhw yn profi fy nymheredd i.

"A phan gyrhaeddais i nôl, fe ges i brofi fy nhymeredd eto - doeddwn i ddim yn cael mynd nôl i mewn i'r stryd na hefyd i mewn i'r bloc fflatiau. Felly pedair gwaith mewn cwta funudau.

"Mae o'n drwyadl iawn, mae 'na filiynau o bobl yn gweithio ar y broses i sicrhau [ei fod yn gweithio yn iawn.]

"Ar y trên tanddaearol, y metro, mi rydach chi'n gorfod sganio côd, felly mae'r Llywodraeth yn gwybod am bob un siwrne trên tanddaearol mae pawb wedi gwneud yma.

"Os ydych wedi digwydd bod ar drên efo rhywun sy' hefo'r feirws, yna mi fyddwch yn cael eich galw mewn a cewch chi brofion. Felly mae'n eitha' anhygoel y drefn sydd yma i geisio osgoi bod y feirws yn ymledu."

Teulu Menna Price - Yr Eidal - "Mae'r ddinas yn ddistaw iawn"

Ffynhonnell y llun, Menna Price
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ysgol y mae Sara yn mynd iddi wedi bod ar gau ers pythefnos

Cyhoeddwyd ddydd Mercher bod yr Eidal yn ystyried cau pob ysgol yn y wlad tan ganol mis Mawrth, wedi i 80 o bobl farw o'r feirws yn y 24 awr ddiwethaf.

Mae Menna Price yn wreiddiol o Gaerdydd, ond bellach yn byw yn ninas Ravenna yng ngogledd-ddwyrain yr Eidal, gyda'i gŵr Mauro a'u merch Sara, sy'n naw oed. Gan fod yna gymaint o leoedd cyhoeddus wedi cau, mae'r ddinas o'u cwmpas yn ddistaw iawn, meddai Menna:

"Dyw'n dinas ni ddim yn y red zone area, ond mae'r ysgolion wedi cau ers pythefnos. Mae unrhyw weithgaredd chwaraeon wedi cau, ac unrhyw beth celfyddydol wedi stopio. Felly mae e bach yn rhyfedd achos mae'r ddinas yn dawel iawn, ac wrth gwrs, does neb yn mynd i unrhyw le.

"Mae'r eglwysi wedi ail-agor, ond mae 'na ganllawiau digon clir. Chi ddim fod i siglo llaw. Dyw'r Eidalwyr ddim fod i gusanu bellach - dyna'r arfer, ein bod ni'n cusanu ar y ddwy foch.

"Ni fod i gadw pellter o 1.5m oddi wrth ein gilydd. Yn y bar, lle dwi'n mynd am cappuccino bob bore, roedden nhw wrthi yn symud eu cadeiriau a'r byrddau, ac roedd rhaid iddyn nhw gael gwared ar rai achos bod dim digon o le i bawb wedyn. Mae hynny'n digwydd yn yr holl lefydd bwyd.

'Mae pobl wedi bod yn panic-buying'

"Falle'r peth mwya' rhyfedd yw dyw pobl ddim yn gwisgo masgiau yma, ond mae 'na brinder deunyddiau yn yr archfarchnadoedd o hyd. Papur tŷ bach, 'sdim lot o tissues 'da ni, a pethe fel tins o domatos, tins o beans; pethe mae pobl wedi bod yn panic-buying.

"Mae'r plant gartre' 'da ni ers pythefnos, a dwi'n hunan-gyflogedig, felly dwi ddim wedi bod yn gweithio ers pythefnos.

"Mae Sara ddigon hapus i fod gartre', wrth gwrs!

"Bydd ganddon ni nyrs wrth law yn yr ysgol, pan awn ni'n ôl, achos mae angen cymorth ar athrawon achos dyw hi ddim yn rhwydd iawn i wybod beth i'w wneud.

Dim gwyliau Pasg

"Fel arfer dwi'n dod nôl i Gymru dros Pasg, ond fi 'di gorfod canslo'r ffleit bore 'ma, achos mae e'n rhy gymhleth. Mae synnwyr cyffredin wedi dweud wrtha i i beidio symud.

"Mae pobl jest yn mynd mlaen â'u bywydau nhw fel y gallan nhw, achos mae pobl mewn sefyllfaoedd llawer gwaeth na ni. Beth sy'n bwysig yw fod iechyd pawb yn iawn, a'n bod ni'n ceisio cyd-weithio i beidio gwneud i'r holl beth ledu mwy.

"Dwi ddim yn credu fod ofn y feirws, ond mwy nag ofn beth mae hyn yn ei olygu i'r economi, achos mae'r economi wedi arafu heb os nac oni bai."

Ioan Morgan - Fietnam - "Mae'r ysgol wedi bod ar gau ers dechrau Chwefror"

Ffynhonnell y llun, Ioan morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ioan Morgan yn athro yn Vietnam

Mae Ioan Morgan, sy'n wreiddiol o Ddolgellau, yn athro mewn ysgol yn Hanoi, Fietnam. Mae'r ysgol y mae'n gweithio ynddi wedi bod ar gau ers mis eisoes, meddai:

"'Da ni (yr ysgol) wedi bod ar gau i'r disgyblion ers dechrau Chwefror. Oedden i ffwrdd am bythefnos cyn hynny efo blwyddyn newydd China, sef Tết yn Fietnam. Felly mae plant 'di bod i ffwrdd o'r ysgol ers rhyw chwe wythnos.

"Fe wnaeth y Llywodraeth leol yma roi'r penderfyniad i'r rhieni yn Hanoi wythnos yma, ac fe wnaeth y rhieni bleidleisio i gadw'r ysgolion ar gau. Felly mae'r feirws 'ma 'di effeithio ar ysgolion a'n swyddi ni lot.

"Rydan ni dal yn yr ysgol yn gweithio, ond rydan ni'n gyrru gwersi i'r disgyblion dros blatfformau cyfryngau cymdeithasol arbenigol i blant ac addysg.

"O gwmpas y ddinas, roedd 'na lot o bobl yn gwisgo masks.

"Os ei di i siopa mae 'na siawns neith rhywun ofyn i ti checio dy dymheredd - mae yna hefyd checks ar ein tymheredd cyn gwaith yn yr ysgol. Dydyn nhw ddim yn gwisgo gymaint ar y masks bellach.

"Gan mai ond 16 achos sydd gan Fietnam [ar hyn o bryd], dydan ni ddim 'di gweld gymaint â hynny o banig ers tua pythefnos.

"Fe wnaethon nhw roi tref o tua 10,000 o bobl fewn i quarantine tua pythefnos yn ôl, ond 'da ni ddim 'di cael achos newydd ers tair wythnos, felly mae'n ymddangos fel bod y wlad wedi gwneud y pethau iawn."

Hefyd o ddiddordeb: