'Datganoli darlledu yn peryglu radio masnachol'
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth cwmni radio masnachol wedi dweud y gallai rhai gorsafoedd gau pe bai pwerau dros ddarlledu yn cael eu datganoli.
Roedd Martin Mumford, rheolwr gyfarwyddwr Nation Broadcasting, yn rhoi tystiolaeth yn y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Iau.
Dywedodd Mr Mumford y gallai system o reoleiddio ar wahân yng Nghymru fod yn "aneconomaidd" i radio masnachol.
Wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor diwylliant, yr iaith Gymraeg a chyfathrebu rhybuddiodd Mr Mumford y gallai haen arall o reoleiddio orfodi rhai gorsafoedd masnachol i adael y wlad.
"Mae 'na beryg y gallech chi golli'r hyn sydd gennych chi yn barod," meddai.
"A hynny oherwydd os yw'n dod yn fwy anodd i redeg cwmni mewn ffordd sy'n fasnachol, yna mae busnesau masnachol yn dewis dilyn llwybr sydd gyda'r lleiaf o wrthwynebiad.
"Os edrychwch ar yr Alban, o dan y drefn flaenorol o reoliadau ledled y DU, rhoddodd Global [grŵp radio masnachol] un o'r trwyddedau mawr ar gyfer Glasgow yn ôl oherwydd bod gofyn iddynt, ar yr adeg honno, ddarparu fwy neu lai eu holl raglenni o'r genedl yna. "
Dywedodd Mr Mumford y gallai trefn reoleiddio wahanol yng Nghymru roi baich ariannol ychwanegol ar weithredwyr masnachol wrth drafod eu trwyddedau neu fynediad at donfeddi radio.
"Yr hyn y byddech chi'n ei wneud yn y pen draw, o bosib, yw creu rheoleiddiwr newydd a fyddai'n treulio'r mwyafrif helaeth o'u hamser yn cysylltu â'r rheoleiddiwr presennol.
"Felly fyddech chi wedi dyblygu'r broses a byddem yn ôl pob tebyg...yn talu mwy yn y pen draw."
Dydy llywodraeth Cymru na llywodraeth y DU o blaid datganoli darlledu.
Cafodd tystiolaeth Mr Mumford ei wfftio gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Mae'r Gymdeithas yn gweld datganoli darlledu fel modd o gynyddu'r nifer o sianeli teledu a gwasanaethau radio Cymraeg, ac maent o blaid codi trethi gan wasanaethau ffrydio fel Amazon a Netflix er mwyn ariannu gwasanaethau newydd.
Dywedodd Colin Nosworthy o Gymdeithas yr Iaith mai hel bwganod oedd Mr Mumford.
"Fydda nhw yn dweud hwnna, ac mi wnaethant nhw ddweud hwnna mewn cyd-destun telathrebu a darparu gwasanaethau ffôn yn Gymraeg ac yn y blaen.
"Ond mae'n gyffredin iawn ar draws y byd bod 'na rheoliadau am ieithoedd lleiafrifol yng nghyd-destun llefydd fel Gwlad y Basg a Catalwnia."
'Mwy o ddylanwad Cymreig'
Un arall i roi tystiolaeth oedd yr Athro Justin Lewis o Brifysgol Caerdydd, fu'n son am yr angen i "lais Cymru gael ei glywed wrth lobïo dros ddyfodol y BBC a darlledwyr eraill."
Dwedodd y gallai datganoli darlledu sicrhau mwy o ddylanwad Cymreig mewn trafodaethau am gyllid y BBC, a dyfodol ffi'r drwydded deledu sydd hefyd yn ariannu S4C.
"I mi, nid y gallu i reoleiddio'n sydyn mewn pob math o ffyrdd cymhleth ac anodd ydy'r wobr," meddai.
"Mae'n rhoi cyfle i gael llais Cymreig clir iawn fyddai'n cael ei chlywed, ac y byddai'n rhaid cael ei chlywed, ym mhenderfyniadau'r llywodraeth ganolog ynghylch darlledwyr ledled y DU.
"Ar hyn o bryd mae'r holl bŵer hwnnw'n gorwedd yn Llundain yn yr holl feysydd hyn, ac mae modd anwybyddu Cymru'n llwyr.
"Mae datganoli yn llwybr posib i ddatrys hynny.
"Nid yw'n sicrhau hynny, ond mae'n llwybr posib."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2017
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2018