Datganoli darlledu: Pennaeth BBC Cymru'n 'niwtral'
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarwyddwr BBC Cymru wedi dweud ei fod yn "niwtral" am y syniad o ddatganoli grymoedd dros ddarlledu i Lywodraeth Cymru, gan gwestiynu beth fyddai'n cael ei "drwsio" o wneud hynny.
Roedd yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor diwylliant y Cynulliad wrth i'r pwyllgor agor ei ymchwiliad i ddatganoli darlledu.
Dywedodd Mr Talfan Davies fod yr amcan o ddatganoli grymoedd yn aneglur, ac fe feirniadodd awgrymiadau "rhamantaidd" rhai o gefnogwyr y fath gynllun.
Nid yw Llywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU o blaid datganoli grymoedd darlledu.
Tystiolaeth
Ynghyd â Mr Davies, roedd penaethiaid ITV Cymru ac S4C hefyd yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
Wedi i gadeirydd y pwyllgor Bethan Sayed AC ofyn i Rhodri Talfan Davies am yr effaith ar y BBC petai grymoedd yn cael eu datganoli, atebodd: "Dwi ddim eisiau bod yn heriol ond dwi yn meddwl mai'r cwestiwn cychwynnol ydy: be ydy'r pwrpas?
"Beth ydym ni'n ceisio ei drwsio? Dwi yn syth yn mynd at enghreifftiau. 'Dan ni ar fin cychwyn negydu hawliau'r Chwe Gwlad. Sut mae gwneud hynny heb rym a phŵer ariannol corff Prydeinig?
"Mae cynnyrch newyddion y BBC yn plethu newyddion Cymreig a newyddion Prydeinig a newyddion rhyngwladol. Ydyn ni am ddatglymu rhain i gyd?
"Mae'r gerddorfa sydd yn yr adeilad drws nesaf [Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC] - mae hanner yr arian yn dod gan Radio 3 ar gyfer darllediadau.
"Mae popeth yn bosib, ond falle y cwestiwn creiddiol i ni ei ddeall yw - os oes yna ddadl dros ddatganoli, be ydi'r canlyniad ydych chi'n chwilio amdano?"
Arlwy
Un oedd yn cefnogi barn Mr Davies yn y cyfarfod oedd Phil Henfrey, pennaeth newyddion a rhaglenni ITV Cymru. Dywedodd wrth y pwyllgor fod perygl i anghofio am apêl rhaglenni'r DU i gynulleidfa Gymreig.
Dywedodd fod arlwy ITV Cymru yn cael ei mwynhau "gan bobl yng Nghymru cymaint ag y mae gan bobl yn yr Alban, Lloegr ac yn y blaen".
"Felly beth mae datganoli yn ceisio ei ateb? Mae chwant y gwyliwr am gymysgedd eang sy'n cymysgu cynnwys o'r DU gyda chynnwys Cymreig, felly o ogwydd datganoli, beth ydym yn ceisio ei drwsio?"
Dywedodd Owen Evans, prif weithredwr S4C ei fod yntau hefyd yn "niwtral" am ddatganoli grymoedd darlledu.
Ond fe ychwanegodd fod adolygiad o wasanaeth y sianel wedi annog mwy o atebolrwydd i Aelodau Cynulliad a mwy o gydweithio gyda Llywodraeth Cymru, yn enwedig wrth hyrwyddo'r iaith Gymraeg.
"Rydyn ni wedi gwneud nifer o enillion wrth fynd i bartneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a chyrff eraill ers yr adolygiad, yn enwedig o gwmpas addysg a dysgwyr," meddai.
"Gall mwy o fanteision ddod drwy ddatganoli ond yna fe fyddai'n rhaid i chi eu cydbwyso gyda'r rhannau fyddai angen i ni gael trefn arnyn nhw. Er enghraifft - y model ariannu - yw Cymru i gael ffi drwyddedu?"
Trefniadau ariannu
Dywedodd Rhodri Talfan Davies fod y trefniadau ariannu hefyd yn "faterol" i'r ddadl dros ddatganoli darlledu.
"Rwyf wedi gweld digon o ddogfennau gan Gymdeithas yr Iaith sy'n pwyntio'n rhamantaidd i Wlad y Basg fel enghraifft o nifer o sianelau mewn Basgeg ar y teledu a radio.
"Y gwir yw fod yr arian o ffi'r drwydded sydd yn dod i Gymru am wasanaeth cenedlaethol i Gymru, nid i Doctor Who a Casualty, yn sylweddol uwch na'r arian sy'n mynd i mewn i wasanaethau Basgeg.
"Rydym ni'n dewis darparu hyn gydag un sianel yn hytrach na tair sianel, neu gydag un gorsaf radio yn hytrach na phedair. Dyma'r penderfyniadau yr ydym wedi ei wneud yng Nghymru.
"Mae'r ariannu'n llawer iawn mwy. Mewn unrhyw gwestiwn am ddatganoli: ydych chi'n diweddu gyda'r arian a'r adnoddau i barhau i gynnig gwasanaeth o'r un maint a safon?"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2018