Plac piws i un o brotestwyr gwreiddiol Comin Greenham
- Cyhoeddwyd
Bydd dynes wnaeth ymgyrchu am ddegawdau dros heddwch a chael gwared ar arfau niwclear yn cael ei hanrhydeddu ym Mhowys ddydd Gwener.
Pan wnaeth taflegrau gyrraedd safle Awyrlu'r Unol Daleithiau yn Berkshire yn 1981, fe wnaeth degau o filoedd o bobl fynd yno i brotestio.
Eunice Stallard o Ystradgynlais oedd un o'r protestwyr cyntaf yng Nghomin Greenham, wedi iddi gerdded 100 milltir i sefydlu'r gwersyll heddwch y tu allan i'r safle.
Bydd plac piws yn cael ei ddadorchuddio yn ei thref enedigol er cof amdani ddydd Gwener.
Roedd y rhyfel oer yn ei anterth ac roedd Eunice yn ffigwr blaenllaw yn y grŵp Cymreig, Women for Life on Earth - y criw cyntaf i gyrraedd RAF Greenham Common i wrthwynebu penderfyniad Llywodraeth y DU i adael taflegrau'r Unol Daleithiau i gael eu cadw yno.
Roedd hynny'n ddechrau ar ymgyrch wnaeth bara 19 mlynedd, ac fe wnaeth mwy o ymgyrchwyr ymuno â'r gwersyll wrth iddo gael sylw gan y wasg ar draws y byd.
Yn ddiweddarach bu Eunice yn rhan o grŵp Grannies for Peace, wnaeth brotestio yn RAF Fairford yn 2003 yn gwrthwynebu rhyfel Irac.
Bu'n byw yn ardal Ystradgynlais trwy ei hoes, a bu farw yn 2011 yn 93 oed.
Bydd ei theulu yn dadorchuddio plac piws yn Y Neuadd Les yn Ystradgynlais ddydd Gwener fel rhan o ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Yn debyg i blaciau glas, cafodd y rhai piws eu sefydlu gan grŵp o ACau benywaidd yn 2017 er mwyn nodi llwyddiannau merched yng Nghymru.
Eunice fydd y pumed person i dderbyn plac piws, yn dilyn Angela Kwok, Val Feld, Ursula Masson a Megan Lloyd George.