Gêm gyfeillgar: Merched Cymru 2-0 Merched Estonia
- Cyhoeddwyd

Roedd torf o 2,015 yno i wylio'r gêm ar y Cae Ras nos Wener
Roedd Cymru yn rhy gryf i Estonia mewn gêm gyfeillgar o flaen torf o dros 2,000 yn y Cae Ras nos Wener.
Roedd hi'n hanner cyntaf rhwystredig i Gymru wrth i'r ymwelwyr atal tîm Jayne Ludlow rhag sgorio.
Ond fe ddaeth y goliau yn yr ail hanner diolch i Megan Wynne a Nadia Lawrence.
Doedd Cymru heb golli yn erbyn Estonia - sydd bellach yn cael eu rheoli gan gyn-reolwr Cymru, Jarmo Matikainen - yn y tair gêm flaenorol rhwng y ddwy wlad, gan ennill dwy ac un gêm yn gorffen yn gyfartal.