Codi arian am driniaeth i ferch o Wrecsam â thiwmor prin

  • Cyhoeddwyd
Eva WilliamsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eva yn dweud bod ei chyfnod yn yr ysbyty wedi bod yn "frawychus" ond yn rhywbeth roedd yn "rhaid i fi wneud i wella"

Mae rhieni merch naw oed o Wrecsam sydd â thiwmor ymennydd prin yn ceisio codi £250,000 er mwyn gallu ei hanfon i'r Unol Daleithiau ar gyfer triniaeth arloesol.

Cafodd Eva Williams o bentref Marford ddiagnosis o'r cyflwr DIPG yn Ysbyty Alder Hey ar Ddydd Calan.

Mae'r cyflwr, sy'n effeithio plant rhwng dwy a 12 oed gan amlaf, mor anghyffredin fel mai dim ond tua dau achos y flwyddyn mae'r ysbyty yn dod ar ei draws.

Dyw hi ddim yn bosib rhoi llawdriniaeth i glaf sydd â thiwmor o'r fath oherwydd lleoliad y tiwmor yn yr ymennydd.

Mae Eva wedi cael cwrs dwys o radiotherapi ond y gred yw mai dim ond lleihau'r tiwmor dros dro fydd radiotherapi.

Nes y gwyliau Nadolig roedd Eva wedi bod yn teimlo yn dda, ond ar ôl iddi gael problemau gyda'i llygaid a chyfnodau o deimlo'n benysgafn cafodd brofion yn yr ysbyty ac yna'r diagnosis.

'Hunllef pob rhiant'

"Allwch chi ddim disgrifio'r teimlad ond dyma hunllef pob rhiant," meddai tad Eva, Paul Slapa.

"Dydy o bron ddim yn teimlo yn real achos 'dych chi'n meddwl sut nad oes yna unrhyw beth allan nhw wneud?

"Doedd yr un ohonom yn fodlon derbyn nad oedd yna unrhyw beth allan ni ei wneud. Mae'n rhaid bod rhywbeth ar gael.

"Oes yna driniaeth arbrofol? Oes yna brofion clinigol yn digwydd? Oes yna unrhyw fath o obaith y gallwn ni ddal gafael ynddo fo er mwyn Eva?"

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r teulu yn gobeithio y bydd modd i Eva fynd i'r Unol Daleithiau i ddechrau'r treialon meddygol yn fuan

Ar ôl llawer o ymchwil ar y we fe ddaeth Paul a'i wraig Carran ar draws cyffur sy'n cael ei dreialu yn yr Unol Daleithiau.

Mae'r cyffur wedi cael effeithiau positif ar y tiwmorau ac mae'r ymgynghorwyr meddygol yn Alder Hey wedi cytuno bod gwerth i Eva fod yn rhan o'r treialon.

Ond dyw hi ddim yn bosib i'r teulu ystyried y driniaeth oni bai eu bod yn gallu codi digon o arian.

Mae tudalen codi arian wedi ei chreu ers dydd Gwener diwethaf ac mae dros £61,000 wedi ei godi hyd yn hyn.

Ymateb 'aruthrol'

Dywedodd mam Eva, Carran Williams bod yr ymateb wedi bod yn "aruthrol".

"Mae'n anhygoel. Rydyn ni wedi bod yn ein dagrau sawl gwaith ar ôl edrych ar y cyfryngau cymdeithasol, yr hyn mae pobl yn gwneud ar ein cyfer ni a'r ffordd maen nhw'n trio helpu," meddai.

Mae Eva yn dweud bod y dudalen wedi ei "syfrdanu".

"Mae'n gwneud i fi deimlo fel bod lot o bobl yn poeni amdana i," meddai.

Dyw Eva ond yn gallu bod yn rhan o'r treial o fewn 12 wythnos iddi ddechrau'r driniaeth radiotherapi, sy'n golygu bod angen i'r teulu godi'r arian erbyn diwedd Ebrill.

"Gobeithio yn yr wythnosau nesaf y gall Eva fynd allan i'r Unol Daleithiau a dechrau arni. Mae'n rhaid i ni symud mor gyflym ac y gallwn ni," meddai Mr Slapa.