Gobeithio teithio adre' ar ôl 'lockdown' yn Malaysia

  • Cyhoeddwyd
Rhydian a BetsanFfynhonnell y llun, Rhydian Gwyn Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Rhydian a Betsan yn teithio cyn i'r coronafeirws ymledu

Roedd Rhydian Gwyn Lewis a'i gariad Betsan Morgan yn teithio gwledydd Asia wrth i'r coronafeirws ymledu ar draws y byd.

Wrth i'r sefyllfa waethygu, a chyhoeddiad Boris Johnson nos Lun, bod yn rhaid i bawb aros yn eu tai, maen nhw wedi clywed eu bod nhw am gael gadael Malaysia, lle maen nhw wedi eu hynysu ers wythnos, i ddod yn ôl i Gymru.

Bu Rhydian yn sgrifennu am eu profiad o fod wedi eu cau mewn stafell fach mewn hostel yn Kuala Lumpur cyn i'r cyhoeddiad ddod eu bod yn gobeithio gallu hedfan adref fore Mercher.

Dw i'n dechra ama' bo' ni 'di dewis y flwyddyn rong i deithio.

Ddo'th hi'n amlwg, cyn i ni hyd yn oed lanio yn Indonesia, bod pobl wedi dechrau poeni am COVID-19, wrth i hanner yr awyren estyn am eu face masks yn ystod y descent.

A'th petha'n fwy difrifol pan gafon ni holiadur iechyd trylwyr a chynhwysfawr i'w lenwi yn y maes awyr, efo dim ond un cwestiwn… Are you a)healthy or b)not healthy?

Diolch byth, wnaethon ni basio'r prawf a chael tystysgrif bach melyn i'w roi yn ein pasport i brofi ein bod ni'n holliach.

Ffynhonnell y llun, Rhydian Gwyn Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Y ddogfen bwysig sy'n profi fod Rhydian yn iach

Problem yn China a chwpl o wledydd eraill o'dd y coronafeirws ar y pryd, ac er bod ni wastad yn edrych allan am hand sanitiser, doeddan ni byth wir yn meddwl am y peth.

O'dd Asia i gyd o'n blaenau ni, ac ar ôl noson yn Bali, oeddan ni'n hedfan yn syth i ynys Flores er mwyn dechrau ar drip i weld Parc Cenedlaethol Komodo Island.

Ar ôl hedfan nôl i Bali, dyma ni'n dal cwch draw i Nusa Penida - ynys i'r de ddwyrain o Bali, sy'n llawn traethau hardd ac instagrammers.

'Dw i wrth fy modd efo Asia, yn enwedig gan fod diwylliannau'r cyfandir mor wahanol i'n rhai gorllewinol ni. Wrth wylio sioe o ddawnswyr Balinese yn perfformio i gyfeiliant y gamelan un noson gesh i chills wrth ryfeddu at pa mor arbennig ydy o.

Mae clywed y call to prayer Mwslemaidd am bedwar o'r gloch y bore hefyd yn rwbath sy' 'di bod hollol allan o'r 'norm' i ni, ac eto, er mor hardd ydi'r alawon (sy' mor debyg i'n alawon gwerin Cymreig ni rywsut) ma' 'na rwbath am glywed y llais unig na'n canu dros uchel seinydd yng nghanol y tywyllwch sy'n gyrru iasau lawr 'y nghefn i. A dwi wrth fy modd efo fo.

Ffynhonnell y llun, Rhydian Gwyn Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Betsan a Rhydian wedi cyrraedd Kuala Lumpur

Y coronofeirws yn lledu

Erbyn hyn, mi o'dd 'na 'chydig mwy o newyddion am y coronafeirws yn dechra' dod trwadd, a mwy a mwy o wledydd yn dechrau adrodd bod y salwch wedi cyrraedd eu tiroedd nhw, nes yn y diwedd, mi ddaeth o i Brydain.

Doeddan ni dal ddim wedi meddwl faint fysa hyn yn gallu effeithio arnon ni a'r daith, felly wnaethon ni gario mlaen i chwalu'n dwylo efo sebon a symud i Canggu am noson, a gweld y machlud ar y traeth yn syfrdanol.

O'dd hi'n amser i ni symud ac aros ar ynys fechan Gili Air, ond oedd hi'n dod yn fwy a mwy amlwg bod sefyllfa'r coronafeirws yn mynd yn waeth, a'r nifer oedd wedi dal y salwch a marw ohono yn cynyddu'n sylweddol bob dydd.

Fe ddaeth 'na bwynt lle do'dd ymlacio a mwynhau'r ynys ddim cweit mor hawdd achos oedd angen i ni ddechrau sylweddoli bod hyn am effeithio arnon ni hefyd.

Mi oedd ganddon ni gynlluniau i deithio o gwmpas Fietnam, ond wrth i ni ddiweddaru negeseuon Twitter a darllen cyngor yr FCO [Foreign and Commonwealth Office], fe ddaeth hi'n amlwg yn fuan bod hyn i gyd ddim am ddigwydd, wedi i Fietnam benderfynu gwrthod cynnig visas i deithwyr o dramor.

Mae'n rhaid i wledydd gymryd y camau i ddiogelu eu hunain, ac wrth ystyried Fietnam, 'da ni'n dallt bod rhaid i bawb 'neud newidadau drastig er mwyn taclo'r feirws 'ma.

'Poeni am bawb adra''

Efo'r ansicrwydd a'r perygl sy'n dod efo pandemic fel'ma, wrth gwrs rydan ni'n mynd i boeni am bawb adra'.

Pan oeddan ni wedi ein dal yn Ecuador, neu'n gofidio am riots Bolifia a Chile, dim ond Bets a fi oedd yn cael ein effeithio, ac o leia roeddan ni'n gwbod bod pawb adra' dal yn saff.

Roedd hi'n dod yn amser i ni feddwl gwneud newidiadau hefyd, achos o fewn wythnos mi fysa'n visa ni yn Indonesia wedi dod i ben ac mi fysan ni'n cael ein gorfodi i adael y wlad - lockdown neu beidio.

Doedd Japan, Philippines, India na Fietnam ddim am ein gadael ni mewn, ac efo'r siawns bod lockdowns yn debygol o ddigwydd am gyfnodau hir, doedd visa 30 diwrnod Gwlad Thai chwaith ddim yn ddigon.

Dyna sut ddaeth Malaysia yn opsiwn. Visa 90 diwrnod, gwlad brydferth, rhad, ac yn bwysicach, roeddan nhw'n fodlon ein gadael ni fewn.

Felly ein cynllun oedd i hedfan i Kuala Lumpur a pharatoi i fynd ar lockdown a chau'n hunan mewn stafall am gwpl o wythnosau.

Roedd ein sefyllfa ni gymaint brafiach na sefyllfa lot o bobol sy' 'di cael eu heffeithio gymaint gwaeth na ni gan y feirws.

Ffynhonnell y llun, Rhydian Gwyn Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Stoc o fwyd yn barod i'w bwyta yn eu stafell yn Kuala Lumpur

Fe ddaeth cyhoeddiad oriau ar ôl i ni gyrraedd bod Malaysia am ddechrau gwrthod teithwyr newydd o dramor, a bod angen i'r wlad fynd ar ryw fath o lockdown. Roedd ein amseru ni yn berffaith felly.

Felly, o'n stafall fach newydd ni mewn hostel yn Kuala Lumpur, y sgwennais i hwn, lle rydan ni wedi bod am wythnos yn social distancing.

Ffynhonnell y llun, Rhydian Gwyn Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Rhydian a Betsan ar eu diwrnod cyntaf yn hunan ynysu

A diolch byth mod i efo Bets achos mae hi'n gwybod yn iawn sut i 'neud yn siŵr bod fy nghalon i ddim yn curo'n wirion ar ôl darllen gormod am y sefyllfa ar y we.

Dydy'r wlad ddim cweit ar lockdown llwyr, rydan ni wedi cael mynd allan i nôl bwyd, ond mae'r strydoedd yn wag iawn a'r heddlu yn mynd o gwmpas efo uchelseinydd yn annog pobol i aros adra'.

Wrth fynd allan i brynu cinio, rydyn ni'n cael profi ein tymheredd ar y ffordd a gorfod defnyddio hand sanitisers. Mae hefyd cyrffyw am wyth o'r gloch bob nos yma yn Kuala Lumpur.

Ffynhonnell y llun, Rhydian Gwyn Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyd y strydoedd gwag, ar eu ffordd yn ôl i'r hostel ar ôl bod allan i brynu cinio

Doedd dim amdani felly, ond gwylio Netflix! Roedd hi'n ddyletswydd arna ni i drio'n gorau i helpu'r sefyllfa, yn enwedig gan bod pobl Malaysia wedi'n gadael ni i mewn i'w gwlad.

Gobeithio hedfan adref

Gesh i fy neffro bore dydd Mawrth gan lais Bets yn deud wrtha i fod "Boris mo'yn i ni fynd adre". O'ddan ni wedi dweud wrth ein hunain o ddechra'r lockdown 'ma y bysan ni'n mynd adra' yn syth pe bai Llywodraeth Prydain yn ein hannog ni i 'neud hynny. Er ein bod ni wedi aros nes y datganiad, doeddan ni ddim wir yn gweld sut fysa hi 'di bod yn bosib i ni deithio ymhellach yn y dyfodol agos be' bynnag.

Mewn denial llwyr, rydan ni wedi dilyn rheolau Malaysia a cheisio darbwyllo'n hunan y bysan ni'n gallu aros yma nes bod y cyfan yn pasio, ond mae'n gwbl amlwg bellach mai dim ond un hediad arall sy' ganddon ni i'w gymryd, a ma' hwnnw'n mynd adra.

Felly ar ôl saith mis hollol fythgofiadwy o deithio, ac un wythnos o 'neud dim byd ond bwyta takeaways yn Kuala Lumpur, mae'n taith ni 'di gorfod dod i ben.

Rydan ni'n cyfri'n hunan yn ffodus iawn o fod wedi cael mwynhau saith mis gorau'n bywydau ni, a 'da ni'n gwbod bod y dyddiau yma gymaint anoddach i sawl un arall ar draws y byd.

Ond mi neith y cyfnod swreal a dychrynllyd 'ma basio, ac mi ddaw'r byd drwyddi, a phan fydd y cyfan yn ddim ond atgof, dwi'n siŵr fydd Bets a finna'n rhoi'n rucksacks nôl ar ein cefnau unwaith eto.

Cadwch yn saff.

Hefyd o ddiddordeb: