Cerdd arbennig ar gyfer Sul y Mamau
- Cyhoeddwyd

Gyda nifer fawr o deuluoedd yn treulio Sul y Mamau ar wahân, diolch i'r Prifardd Mererid Hopwood am y gerdd arbennig yma sy'n cyfeirio at natur unigryw yr achlysur eleni.
Nos Sul y Mamau 2020
Rôl diwrnod heb gawodydd
clyw'r dail yn croniclo'r dydd,
mae trydar anghyfarwydd
crin y gwyll am roi croen gŵydd,
a'r haul hwyr am roi ar led
stori yr ailystyried -
addunedau geiriau gwâr,
sibrydion sobri adar.

Y min hwyr hwn, oedwn ni
i ofalus aildafoli;
a bydd, fe fydd ailfeddwl
wedi hyn am ruthro dwl
ddoe ddwethaf; mynd yn ddoethach
hyd y byd, yn araf bach
fydd raid, a rywfodd rhodio'n
dawel iawn ar hyd y lôn.

Ond heno, clychau tyner
cân y Sul sy'n cynnau sêr
un enw all ein cynnal
drwy fyd chwim, di-ddim, di-ddal
ein hofn ni; digyfnewid
yw'r llais all dawelu'r llid -
galwa hi dros bellter gwlad
a chei awr yn ei chariad.
Hefyd o ddidordeb: