Cefnogaeth yn brin i rieni plant anghenion ychwanegol
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni plant ag anghenion ychwanegol yn poeni sut maen nhw yn mynd i ymdopi tra bydd ysgolion ar gau, am nad oes llawer o gymorth ychwanegol ar gael iddyn nhw.
Mae ysgolion a meithrinfeydd ar gau i bob disgybl, ar wahân i blant gweithwyr allweddol.
Mae hyn yn cynnwys plant ag anghenion ychwanegol.
Mae mab Hayley Norris, Jonah, 13, yn defnyddio cadair olwyn. Dydi e ddim yn gallu siarad ac mae'n cael ei fwydo drwy diwb.
"Mae'n heriol iawn," meddai Mrs Norris, sy'n dod o Gaerdydd.
"Mi ges i fore gwael heddiw wrth geisio ei gael o i godi. Dydi o ddim yn hoffi gwisgo, a dydi o ddim yn hoffi cael newid ei gewynnau.
"Mae'n ymladd yn eich herbyn ar bob cyfle, ac yn eich cripio. Y bore 'ma roedd o'n fy nghicio am nad oedd o am i mi ei wneud o. Fel 'na mae'r sefyllfa, drwy'r amser, bob dydd. Mae o jest yn barhaus."
Roedd ei ysgol arbennig, Ysgol Tŷ Gwyn, ar gau yr wythnos ddiwethaf.
"Mae hynna'n mynd i gael effaith anferthol arnom. Yn llythrennol, dim ond fi a fy ngŵr fydd yna," meddai Mrs Norris, sydd â dau blentyn arall.
Mae gan fab Rhian Keenan, Trystan, 8 oed, anghenion addysgol cymhleth, yn cynnwys awtistiaeth, ADHD, anghenion iaith a lleferydd a heriau prosesu synhwyraidd.
"Dwi jest ddim yn gwybod sut fyddwn ni'n ymdopi," meddai Mrs Keenan, sy'n dod o Benyrheol ger Gorseinon.
"Dwi'n teimlo'n hollol ar ben fy hun."
Mae Mrs Keenan yn gweithio mewn archfarchnad, sy'n swydd allweddol, felly gallai Trystan fynychu'r ysgol. Ond am na fydd y staff arferol yno i ofalu amdano, mae'n dweud na fyddai ei mab yn gallu ymdopi.
Aros adref
"Mi fydd ei or-bryder yn mynd drwy'r to, ac mi fyddan ni'n siŵr o gael sterics," meddai.
"Mae o'n cael trafferth cysgu p'run bynnag, felly dwi ddim yn gwybod sut mae'r holl boendod am y feirws a bod i ffwrdd o'r ysgol am gyfnod amhenodol yn mynd i effeithio arno yn y tymor hir."
Yn ôl yr Athro Amanda Kirby, sy'n arbenigwraig ar anghenion dysgu ychwanegol, mae hwn yn gyfnod pryderus iawn i rieni.
"Mae newid yn eu patrwm dyddiol, a'r cyfyngu ar weithgareddau, yn mynd i ddod a mwy o sialens i rieni, sy'n barod yn teimlo'n bryderus iawn."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn hollbwysig i leihau cymdeithasu.
"Felly os medr plant aros adref yn ddiogel, dyna ddylid ei wneud.
"Lle nad oes dewis diogel arall, dylai ysgolion a lleoliadau eraill ddarparu ar gyfer plant gweithwyr allweddol a dysgwyr bregus - mae hyn yn cynnwys plant ag anableddau.
"Os ydi rhieni'n teimlo bod angen rhagor o gymorth, byddwn yn eu cynghori i gysylltu efo'u hawdurdod lleol am wybodaeth ynglŷn ag unrhyw gefnogaeth ychwanegol sydd ar gael yn eu hardal."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2020