Y byd yn troi'n fach
- Cyhoeddwyd
Dwn i ddim amdanoch chi ond mae'r byd yn teimlo'n fach iawn i fi ar hyn o bryd. Mae'n dweud rhywbeth pan fod cerdded i'r Co-op am laeth yn teimlo fel un o uchafbwyntiau bywyd!
Does wybod chwaith pa fath o fyd fydd yn ein disgwyl pan ddeuwn ni drwy'r busnes afiach yma ond mae'n debyg o fod yn le tra gwahanol.
Yn sicr mae rhai o fuchesau sanctaidd y dde Thatcheraidd wedi ei saethu yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Does dim modd dadlau nad oes y fath beth a chymdeithas yn bodoli tra'n apelio ar wirfoddolwyr i'w chynnal hi. Sut mae maentumio mai'r farchnad ddylai reoli popeth pan fyddai'r stondinwyr i gyd yn fethdalwr heb gymorth o bwrs y wlad?
Wedyn dyna i chi'r pwyslais ar globaleiddio gan ddod â nwyddau o ble bynnag y maen nhw rhataf. Yn yr amgylchiadau presennol, ydych chi'n gysurus â'r ffaith bod yr ynysoedd hyn ond yn cynhyrchu oddeutu hanner y bwyd sydd angen arnom ni? Dydw i ddim.
Ydy'r rheiny sy'n gweld cyfyngu ar ymfudo fel ateb i bob problem dan haul yn mynd i deimlo'n fodlon wrth weld llysiau a ffrwythau'n pydru yn ein caeau gan nad oes neb yn fodlon eu cynhaeafu?
Mae cwestiynau felly yn golygu y gallai 'na fod tir ffrwythlon iawn i ddadleuon asgell chwith ynghylch rôl y wladwriaeth yn ein bywydau ar ddiwedd hyn oll.
Er mwyn manteisio ar hynny mae angen gwrthblaid effeithiol ar lefel Brydeinig.
Hawdd yw anghofio bod y ras i olynnu Jeremy Corbyn yn dal i fynd rhagddi. Mae 'na bethau pwysicach i feddwl yn eu cylch ar hyn o bryd ond mae pwy sy'n cael ei ddewis neu ei dewis o hyd yn mynd i gyfri' wrth i bethau droi mewn i ryw normalrwydd newydd.
Wedi'r cyfan, tasg y person hwnnw fydd cyflwyno gweledigaeth o fyd ar ôl Covid-19 ac un sy'n dra gwahanol i'r byd oedd yn bodoli cyn i ryw ystlum yn Tsieina yrru'r hwch trwy'r siop.