Coronafeirws: Cwmni adeiladu ddim yn dilyn canllawiau
- Cyhoeddwyd
Nid yw safleoededd adeiladu cwmni Persimmon yn dilyn y cyngor priodol ynglŷn â'r coronafeirws yn ôl un o'u gweithwyr.
Dywedodd y gweithiwr fod penaethiaid y cwmni wedi gorchymyn i roi'r gorau i weithio ar bob un o'u 350 o safleoedd, ond bod rheolwyr sy'n gyfrifol am safleoedd yng Nghymru yn dweud wrthyn nhw i "gario mlaen i weithio fel arfer".
Yn ôl y gweithiwr, sydd ddim eisiau cael ei enwi: "Ar ol cyhoeddi'r lockdown, mi ddaethon ni i mewn i'r gwaith i ddechrau cau popeth i lawr.
"Unwaith y dechreuon ni, tua canol y bore, cawsom gyfarwyddyd ar y ffôn gan y penaethiaid, ar lefel cyfarwyddwyr, i gadw'r busnes ar agor fel arfer."
Angen diogelu safleoedd
Mewn datganiad dywedodd Persimmon fod pob un o'i safleoedd wedi dechrau cau i lawr yn drefnus, gyda dim ond gwaith hanfodol yn cymryd lle, a'r "pwyslais ar wneud yn siwr bod tai sydd ar hanner eu hadeiladu, yn ddiogel, lle gallai methiant i gwblhau'r gwaith adeiladu roi cwsmeriaid mewn sefyllfa fregus".
Ychwanegodd llefarydd na ellir gadael safleoedd adeiladu yn ddisymwth, oherwydd bod angen tynnu sgaffaldiau i lawr, er enghraifft, er mwyn diogelwch.
Dim ond os oedd rhywun mewn perygl o fod yn ddigartref y byddai'r cwmni'n cwblhau gwaith adeiladu ar unrhyw dŷ, meddai.
Dywedodd Prif Weithredwr Persimmon Groups, David Jenkinson mai diogelwch cwsmeriaid, staff, contractwyr a chyflenwyr oedd y peth pwysicaf i'r cwmni.
"Heddiw rydym wedi gosod nifer o fesurau ychwanegol ar draws y busnes i'w hamddiffyn tra pery'r pandemig. Byddwn yn gwrando'n astud ar gyngor y Llywodraeth wrth i'r sefyllfa ddatblygu, a byddwn yn addasu lle bo'r angen."
Ond clywodd y BBC gan weithiwr oedd yn dweud fod peintwyr yn dal i weithio ar safleoedd yng Nghymru, tra bo trydanwyr a phlymwyr oedd yn gweithio i gwmniau eraill ar yr un safle, wedi cael eu tynnu'n ôl gan eu cyflogwyr oherwydd y cyfyngiadau covid 19.
Ychwanegodd bod "popeth yn amhendant ac amwys, ac mae'n anodd gwybod beth sy'n hanfodol a beth sydd ddim yn hanfodol."
Roedd gweithwyr yn teimlo'n anesmwyth ynglŷn â'u cyflogau hefyd, meddai.
"Mae'r holl staff wedi cael gwybod na fyddan nhw'n cael eu talu os nad ydyn nhw'n dod i weithio, felly mae'n rhaid iddyn nhw fynd i mewn i weithio," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2020