Pryder am gludo bwyd archfarchnad i bobl fregus yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
fan OcadoFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai cwmnïau cludo bwyd fel Ocado bellach wedi rhoi'r gorau i gynnig gwasanaeth

Mae pryder na fydd pobl hŷn, anabl neu fregus yng Nghymru yn gallu cael blaenoriaeth wrth gael bwyd wedi'i gludo i'w cartrefi yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

Bellach mae archfarchnadoedd yn cael mynediad at fas data Llywodraeth y DU er mwyn blaenoriaethu cludo bwyd i bobl fregus sydd wedi cael gorchymyn i aros adref.

Ond mae hwnnw ond yn cynnwys gwybodaeth am bobl yn Lloegr, gan olygu nad yw pobl o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gallu cofrestru, dolen allanol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n sicrhau bod modd i bobl fregus gael y bwyd, meddyginiaeth a nwyddau eraill sydd eu hangen arnynt.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Rydym yn gweithio gydag adwerthwyr, trwy fforwm Covid-19 yr adwerthwyr a chymdeithasau adwerthwyr, i ddatrys y sefyllfa fel mater o frys."

Bydd cefnogaeth hefyd yn cael ei gynnig mewn ardaloedd lleol i'r rheiny sydd methu dibynnu ar deulu neu ffrindiau.

'Digon am wythnos'

Dywedodd Beverly Harrison-Wood, nyrs wedi ymddeol o Aberteifi, nad oedd unrhyw un o'r archfarchnadoedd mawr yn cynnig gwasanaeth cludo siopa iddi nes canol Ebrill.

Dydy ei siop Tesco leol ddim chwaith yn cynnig gwasanaeth clicio-a-chasglu fyddai wedi ei galluogi hi i ddewis ei bwyd ac yna'i gasglu.

Dywedodd Mrs Harrison-Wood, 63, bod ei gŵr sy'n 69 oed yn gorfod mynd allan i siopa ar eu cyfer nhw a'i mam 85 oed hi gan mai ond gwerth wythnos o fwyd sydd ganddyn nhw ar ôl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhai archfarchnadoedd wedi neilltuo amser ar gyfer yr henoed i siopa

"Mae ar gael yn Lloegr ond ddim yng Nghymru, sydd yn boen," meddai wrth gyfeirio at y cynllun cofrestru.

Ychwanegodd bod rhai siopau bach lleol yn cynnig cludo bwyd ond "dydyn ni ddim yn siopa yno ac felly ddim yn gwybod beth maen nhw'n ei werthu".

Dywedodd Sainsbury's eu bod yn "gwneud eu gorau" i adnabod pobl fregus yng ngwledydd eraill y DU "fel bod modd i ni helpu mwy o bobl mor gyflym â phosib".

Ychwanegodd llefarydd fod eu gwasanaeth cwsmeriaid yn gweithio ar "gapasiti llawn" i helpu pobl, ac y dylai pobl geisio cael eraill i helpu drwy fynd i'r siop ar eu rhan.

Ffynhonnell y llun, NurPhoto
Disgrifiad o’r llun,

Mae archfarchnadoedd wedi bod yn brin o rai nwyddau fel papur tŷ bach

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Asda eu bod hefyd yn gweithio'n "galed iawn" i gludo mwy, ond nad oedden nhw'n blaenoriaethu cwsmeriaid ar hyn o bryd.

"Rydyn ni'n gofyn i unrhyw gwsmeriaid sydd ag amgylchiadau arbennig oherwydd coronafeirws i roi gwybod i ni yn yr 'wybodaeth arall' wrth archebu," meddai.

Mae BBC Cymru yn deall bod archfarchnad arall, Tesco, yn ceisio cynyddu nifer eu cludiadau a neilltuo rhai ar gyfer cwsmeriaid bregus.

Cefnogaeth llywodraeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: Mae rhai pobl sydd â chyflyrau iechyd hir dymor yn cael cyngor i aros adref ac ynysu eu hunain am o leiaf 12 wythnos.

"Byddan nhw'n cael llythyr yn amlinellu'r camau sydd angen iddyn nhw gymryd.

"Byddwn yn sicrhau bod y grŵp yma o bobl yn gallu cael bwyd, meddyginiaeth a nwyddau hanfodol eraill.

"I'r rheiny sydd methu troi at deulu, ffrindiau neu rwydweithiau cymorth lleol, rydym yn gweithio'n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru er mwyn sicrhau bod cefnogaeth ar gael yn lleol."

'Systemau gwirio blaenoriaeth'

Mae elusen Age Cymru eisoes wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru gan fynegi pryderon.

Mae'n galw ar awdurdodau i gydweithio â'r sector manwerthu "i sicrhau fod pobl fregus ddim yn poeni sut maen nhw'n mynd i fwydo'u hunain yn yr wythnosau nesaf.

Dywedodd prif weithredwr yr elusen, Victoria Lloyd fod hi'n hanfodol fod pobl hŷn Cymru'n gallu cofrestru ar gyfer gwasanaethau cludo bwyd yr archfarchnadoedd a chael eu blaenoriaethu.

"Mae llawer o bobl hŷn wedi dweud wrthym eu bod yn gorfod aros am hyd at dair wythnos i dderbyn archeb tra bo eraill yn cael eu taflu mas o'r broses gofrestru," meddai.

"Rhaid cael systemau i helpu'r archfarchnadoedd wirio pwy yn union sydd angen blaenoriaeth yng Nghymru."

Angen i'r iach siopa

Dywedodd Richard Walker, pennaeth cwmni Iceland, sydd â'i bencadlys yn Sir y Fflint, y dylai pobl sy'n iach fynd allan i'r siopau er mwyn rhyddhau amseroedd ar gyfer cludiadau cartref i bobl hŷn a bregus.

"Mae'r Prif Weinidog [y DU] wedi annog pobl i ddefnyddio cludiadau i'r cartref os yn bosib, ond mae'r galw am y gwasanaeth yn llawer uwch na'n gallu i'w gyflenwi," meddai.

"Rydym wedi gwneud ein gorau i gyfyngu archebion arlein i bobl hŷn a'r bregus, a phobl sy'n hunan ynysu, ac rydym yn gweithio'n galed i neilltuo mwy o amseroedd, ond y realiti yw bod pob slot yn cael ei lenwi'n sydyn iawn.

"Felly, mae fy nghyngor i yn groes i gyngor y Prif Weinidog, sef, os ydych chi'n iach, ddim mewn categori bregus ac yn glynu at y cyngor i gadw pellter cymdeithasol, yna gwnewch eich siopa yn y siop ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hynny mewn modd cyfrifol.

"Dim prynu mewn panig, glynu wrth y rheol dau fetr ac yn y blaen, achos mi fydd hynny'n blaenoriaethu a gwella ein gwasanaeth arlein i'r rhai sydd fwyaf ei angen."