Coronafeirws: Dros 1,000 yng Nghymru wedi eu heintio
- Cyhoeddwyd
Mae'r Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau fod dros 1,000 o bobl yng Nghymru wedi cael eu heintio gyda coronafeirws erbyn hyn.
Cafodd 174 yn ychwanegol o achosion eu cadarnhau yn y 24 awr ddiwethaf, gan ddod a'r cyfanswm hyd yn hyn i 1,093.
Mae 4 yn rhagor o bobl wedi marw, sy'n dod a nifer y marwolaethau yng Nghymru i 38.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dweud bod y nifer gwirioneddol o achosion yn debygol o fod yn uwch ac maen nhw'n gofyn i bobl i barhau i aros gartref er mwyn "gwarchod y GIG ac achub bywydau".
Daeth cadarnhad brynhawn Sadwrn bod 1019 o bobl ar draws gwledydd Prydain wedi marw o achos yr haint, sydd yn naid o'r 759 achos a oedd wedi cael eu cadarnhau dydd Gwener.
Dywedodd Dr Robin Howe o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae Coronafeirws Newydd (COVID-19) ym mhob rhan o Gymru yn awr".
"Y cam gweithredu unigol pwysicaf y gallwn ni i gyd ei gymryd er mwyn brwydro yn erbyn Coronafeirws yw aros gartref er mwyn gwarchod y GIG ac achub bywydau.
"Rydyn ni'n gwybod bod aros gartref yn gallu bod yn anodd ac rydyn ni eisiau diolch i bob un person ledled Cymru am wneud eu rhan i helpu i atal lledaeniad y feirws.
"Mae'r cyhoedd yn chwarae rhan bwysig iawn mewn arafu lledaeniad yr haint", meddai Dr Howe, "drwy ddilyn y cyngor diweddaraf yn llym, byddwch yn eich gwarchod eich hun a'r bobl fwyaf agored i niwed, ac yn helpu i leihau'r pwysau ar GIG Cymru ac yn lleihau effaith y feirws."
Nifer yr achosion fesul bwrdd iechyd yw:
482 yn Aneurin Bevan;
64 yn Betsi Cadwaladr;
256 yng Nghaerdydd a'r Fro;
90 yn Cwm Taf;
54 yn Hywel Dda;
19 yn Powys;
104 ym Mae Abertawe.