'Ni allaf ofyn am le gwell i weithio, yn enwedig yng nghanol hyn...'

  • Cyhoeddwyd
Magi TudurFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Helpu paratoi meddyginiaethau i gleifion ydi un o ddyletswyddau Magi Tudur

Gyda phrifysgolion ar gau oherwydd yr haint coronafeirws, mae Magi Tudur wedi gorfod gadael y brifddinas ar ôl dau dymor yn unig o'i blwyddyn gyntaf yn astudio meddygaeth.

Nawr mae hi'n cyfuno astudio ar-lein gyda gweithio mewn meddygfa ger ei chartref yn ardal Caernarfon yn ystod yr argyfwng iechyd. Yma mae hi'n sgwennu am y newidiadau sydyn i'w bywyd.

Teithiais adref gyda ffrind rhyw bythefnos yn ôl ar gyfer y Pasg, heb sylweddoli na fydda i'n dychwelyd i Gaerdydd. Roedd rhaid rhuthro yn ôl wythnos yn ddiweddarach i bacio fy holl stwff o neuadd breswyl Senghennydd, diwrnod cyn i Boris Johnson gyhoeddi lockdown.

Roedd yn deimlad annifyr iawn wrth orfod symud allan heb ffarwelio gyda fy ffrindiau. Nid dyma'r ffordd roeddwn eisiau gorffen fy mlwyddyn gyntaf.

Roedd un o fy ffrindiau ar y cwrs mewn penbleth ynglŷn â theithio adref gan ei bod hi'n byw yn Zambia, ac y byddai'n rhy ddrud i deithio o Affrica yn ôl i Gaerdydd petai'r ysgol feddygol yn ail-agor. Ond erbyn hyn, mae'n eithaf clir na fydd y brifysgol yn ail-agor tan fis Medi beth bynnag.

Rydym yn gorfod dysgu ar-lein o hyn ymlaen, sy'n golygu gwylio darlithoedd ar-lein, recordio aseiniadau - er enghraifft cyflwyniad ar-lein, a defnyddio Skype i drafod mewn grwpiau.

Mae'n gweithio yn eithaf da hyd yn hyn, ond un peth pwysig rydym yn ei golli ydi'r profiad clinigol, gan nad oes modd gwneud hyn ar-lein! O fy nealltwriaeth i, bydd yn rhaid i ni ddal i fyny gyda'r profiad clinigol unwaith mae'r argyfwng drosodd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Ar-lein o'i chartref fydd Magi Tudur nawr yn cael ei darlithoedd a sesiynau grŵp am weddill y flwyddyn academaidd

Erbyn hyn, rwyf adref ers bron i bythefnos, yn dysgu ar-lein, ond hefyd yn gweithio ym Meddygfa Waunfawr, ger Caernarfon. Dechreuais weithio yno yn ystod fy mlwyddyn gap cyn mynd i'r brifysgol, ac ar hyn o bryd, maen nhw'n sicr angen hynny o staff sydd ar gael.

Fy rôl yn y feddygfa yw paratoi meddyginiaethau i gleifion, cymryd galwadau ffôn, a bod yn y dderbynfa - ychydig o bob dim.

Disgrifiad,

Blwyddyn academaidd dra gwahanol i Magi Tudur - myfyriwr meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bydd y doctoriaid yn fy ngalw i mewn weithiau os oes yna achos difyr, ac os yw'r claf yn fodlon, gan fy mod yn astudio meddygaeth.

Newidiadau yn y feddygfa

Mae'r feddygfa yn wahanol ers y tro dwythaf i mi weithio yno, am resymau amlwg, gyda mesuriadau newydd i osgoi lledaenu'r feirws. Un enghraifft yw ein bod yn rhoi meddyginiaethau'r cleifion iddynt drwy ffenestr y feddygfa fel nad ydynt yn dod i mewn i'r adeilad, a hefyd mae'n golygu eu bod yn sefyll yn yr awyr iach yn hytrach na thu mewn i'r feddygfa.

Hefyd, rydym yn treialu rhywbeth newydd o wythnos yma ymlaen - sef gwahanu ein staff fewn i ddau dîm: un tîm i weithio yn ein cangen yn Llanrug am bythefnos, ac un tîm i weithio yn ein cangen yn Waunfawr, fel nad ydym yn cymysgu gormod gyda'n gilydd, h.y. os yw un safle yn cael yr afiechyd, mae'r safle arall dal yn medru gweithio.

Gan fy mod i yn byw gyda fy nheulu, ar ôl shifft yn y feddygfa, rwyf yn defnyddio drws cefn ein tŷ gan nad oes neb arall yn ei ddefnyddio, a hefyd rwy'n tynnu fy ngwisg gwaith yn y drws a neidio mewn i'r gawod cyn mynd o amgylch y tŷ.

Rwyf hefyd defnyddio ystafell ymolchi wahanol i weddill fy nheulu.

Pawb yn helpu ei gilydd

Er y negatifrwydd sydd yn amgylchynu'r sefyllfa, mae gweithio ym Meddygfa Waunfawr yn brofiad anhygoel yn ystod yr argyfwng, ac mae'n gwneud fyny (i raddau) am y profiad clinigol rwyf yn ei golli yng Nghaerdydd.

Mae llawer o gynllunio wedi mynd ymlaen dros yr wythnos diwethaf yn paratoi ar gyfer y gwaethaf, ac mae ymateb a dealltwriaeth y cleifion yn wych ar y cyfan ac yn gwella wrth iddynt arfer.

Mae gennym dîm cryf, a phawb yn helpu ei gilydd ac yn hynod weithgar, ac ni allaf ofyn am unrhyw le gwell i weithio, yn enwedig yng nghanol hyn.

Hefyd o ddiddordeb: