Cwpl o Wynedd yn dod adref ar ôl i'w llong gael glanio

  • Cyhoeddwyd
Mair ac Arfon Jones ar eu mordaithFfynhonnell y llun, Mair ac Arfon Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Arfon a Mair Jones wedi gorfod aros yn eu hystafell ar y llong bleser am dair wythnos

Fe fydd gŵr a gwraig o Wynedd sydd wedi bod yn gaeth i'w hystafell ar long bleser bellach yn gallu dychwelyd adref ar ôl i'r llong gael glanio yn yr UDA.

Wythnos diwethaf fe adroddodd BBC Cymru Fyw hanes Mair ac Arfon Jones o Lanllyfni, oedd wedi bod ar fordaith ar fwrdd llong yr MS Zaandam ym mis Chwefror.

Ond oherwydd mesurau caeth ar draws y cyfandir, roedd pob porthladd wedi gwrthod caniatáu i'r teithwyr lanio na gadael y cwch.

Yn wreiddiol roedd awdurdodau yn Florida hefyd wedi gwrthod caniatâd i'r llong lanio, ond yn dilyn ymyrraeth gan Arlywydd yr UDA, Donald Trump mae bellach wedi docio ym mhorthladd Fort Lauderdale.

Mae Mair ac Arfon Jones bellach yn disgwyl ar fwrdd y llong i gael cyfarwyddiadau ar gyfer dal awyren o Miami i faes awyr Heathrow ger Llundain, er mwyn gallu dychwelyd i Ddyffryn Nantlle.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mair ac Arfon bellach wedi cyraedd Fort Lauderdale yn yr UDA

Wrth siarad â Cymru Fyw fore Gwener, dywedodd Mair Jones: "Roedd yn deimlad emosiynol iawn, hwylio tua'r lan yn Fort Lauderdale neithiwr, gan wybod fod yna oleuni ar ddiwedd y twnnel tywyll a diwedd i'r hunllef fythgofiadwy!"

Fe ddechreuodd pethau fynd o chwith i'r teithwyr wedi iddyn nhw adael Ynysoedd y Falklands, gan iddyn nhw fethu â docio yn Punto Arenas yn Chile oherwydd bod yr awdurdodau yn y wlad wedi gwrthod caniatáu i'r llong bleser ddocio.

Roedd pryderon yn cynyddu y byddai'r llong yn rhedeg allan o fwyd a chyflenwadau angenrheidiol, ond roedd llongau llai wedi eu defnyddio i gludo nwyddau allan i'r llong wrth iddi angori allan yn y môr ger porthladd Valparaiso yn Chile.

Wrth i rai o deithwyr y llong ddechrau dangos symptomau coronafeirws, fe orchmynnodd y capten i bawb aros yn eu stafelloedd er mwyn ceisio atal yr haint rhag lledaenu.

Ond yn gynharach yn yr wythnos fe fynegodd Arlywydd yr UDA, Donald Trump, ei gefnogaeth i'r MS Zaandam, sy'n rhan o fflyd cwmni Holland America.

Mewn sesiwn friffio yn y Tŷ Gwyn, dywedodd yr Arlywydd Trump y byddai'n "gwneud yr hyn sy'n iawn" a gadael iddi ddocio.

Ffynhonnell y llun, Holland America Line
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mair ac Arfon Jones ar fwrdd yr MS Zaandam am fordaith o amgylch de America

Nos Iau, wrth i bobl ar draws y DU ddiolch i holl weithwyr y GIG sy'n rhan o'r frwydr yn erbyn coronafeirws, fe wnaeth pentref Llanllyfni fynd gam ymhellach.

Yn ogystal â diolch i'r gweithwyr iechyd, trefnwyd fod clychau eglwys y plwyf yn canu i ddangos eu cefnogaeth i Mair ac Arfon Jones, a dangos fod y gymuned yn meddwl amdanynt ac yn edrych ymlaen at eu croesawu adref.

"Roedd edrych ar fideo o gloch eglwys Llanllyfni yn canu neithiwr yn gwneud i'r dagrau lifo gan feddwl am deulu a ffrindiau sydd wedi bod yn gymaint o gymorth i'n cynnal ni'n dau yn ystod y dyddiau anodd diwethaf," ychwanegodd Mair Jones.

Y gobaith ydy y bydd y cwpl yn cael hedfan adref yn ystod yr oriau nesaf.