'Cofio fy merch yn wahanol eleni ar Sul y Blodau'
- Cyhoeddwyd
Bydd Sul y Blodau eleni yn wahanol i nifer o bobl wrth iddyn nhw fethu mynd at fedd anwyliaid i osod blodau oherwydd y pandemig.
Yn eu plith mae Margaret Jones o Gaernarfon sy'n mynd bob blwyddyn i roi blodau ar fedd ei merch, Jacqueline.
Bu farw Jacqueline 34 o flynyddoedd yn ôl pan yn 21 oed ac ers hynny mae ei mam wedi mynd â blodau ar ei bedd bob Nadolig, ar adeg ei phen-blwydd ac ar Sul y Blodau.
Ddechrau'r wythnos fe wnaeth Undeb yr Annibynwyr argymell na ddylai pobl fynd i fynwentydd eleni i osod blodau oherwydd y cyfyngiadau yn sgil haint coronafeirws.
Yn ogystal mae rhai cynghorau sir wedi gorchymyn hynny ac mae rhai mynwentydd ar gau.
Wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg ar Radio Cymru, dywedodd Margaret Jones: "Dwi'm yn hoff iawn o beidio mynd at y bedd 'de, ond eleni fe fyddai'n prynu blodau a'u rhoi nhw ar y bwrdd 'ma wrth lun priodas Jacq a'i gŵr.
"Pan gafodd Jacq ei babi yn 1983, y cyfan oedd hi isio oedd rhosod coch - dyna ei blodau hi - ac ers hynny dyna dwi wedi bod yn rhoi ar ei bedd hi.
"Mae hi wedi marw ers dros 30 mlynedd ond os rhywbeth mae'r hiraeth yn mynd yn waeth - ddoe fues i'n edrych ar ei christening gown hi wrth glirio stafell wely.
"O'dd hi'n lyfli o hogan fach - fyddai hi ddim yn brifo pry'. 21 oed oedd hi - a'i geiriau diwethaf hi i mi oedd 'I love you mum'."
'Coronafeirws yn dod â'r cyfan yn ôl'
Dywedodd Margaret Jones bod gweld lluniau o bobl â masgiau yn sgil haint coronafeirws wedi dod â'r cyfan yn ôl iddi.
"Fel yna'n union dwi'n cofio Jacqueline yn marw - roedd hi'n cael trafferth anadlu wrth i'w lungs hi fethu," meddai.
"Dwi'm yn gwybod sut dwi wedi mendio - dydw i ddim yn gwybod ond dwi yn Gristion.
"Pan fu farw Jacqueline, dwi'n deud bod 'na rywun fyny fan'cw yn edrych ar f'ôl i.
"'Dwi yn cael nerth o'i chofio hi fel ro'dd hi - ro'dd hi'n stunning o hogan a mor annwyl."
Ychwanegodd bod mynd â blodau ar y bedd yn hynod o bwysig iddi ond eleni mi fyddai'n hi'n cofio Jacqueline adre wrth edrych ar "y rhosod coch yn ymyl llun ei phriodas".
Ddechrau'r wythnos, dywedodd y Parchedig Dyfrig Rees, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg: "Eleni cyneuwch gannwyll, mynnwch foment dawel i gofio am y bobl a fu'n rhan o'ch bywyd chi ar y ddaear hon unwaith ac sy'n parhau i fod yn annwyl i chi o hyd.
"Basen nhw'n deall y rheswm dros gadw draw. Roedden nhw yn eich caru chi a bydden nhw am i chi fod yn ddiogel."
Bydd y cyfweliad i'w glywed yn llawn ar raglen Bwrw Golwg, 12.30, Sul 5 Ebrill ar Radio Cymru.
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2020