Ysbryd cymunedol Dinbych yn yr argyfwng coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
Dinbych yn yr argyfwng coronafeirws
Disgrifiad o’r llun,

Dinbych yn yr argyfwng coronafeirws

Siopau ar gau, dim sgwrs dros baned.

Fel arfer, mae'r farchnad yn cael ei chynnal yn 'top dre,' y caffis yn llawn, y llyfrgell yn gysur i nifer, ond rŵan mae popeth mor wahanol.

Mae hi'n dawel yma a phawb sy'n troedio'r stryd fawr i'r fferyllfa neu'r archfarchnad fach yn gwneud eu gorau i osgoi ei gilydd.

Mae ambell un yn gwenu neu'n nodio'u penna' gyda "dwi'n dallt".

Eraill yn edrych tua'r llawr, ddim isio deud helo, ddim isio cydnabod ella fod popeth wedi newid.

Disgrifiad o’r llun,

Tawelwch yn Ninbych

Mae hi'n dawel yma ar y stryd fawr, mor groes i'r Dinbych dwi'n ei nabod.

Ond, yng nghanol y byd newydd yma, mae'n rhaid i'r rhai sydd mewn angen gael help o rywle.

Ac ymysg y nifer o sefydliadau a mudiadau sy'n cynnig cymorth, mae grŵp gwirfoddol lleol 'Forget Me Not' yn gweithio'n hynod o galed i estyn llaw i'r rhai hŷn a bregus.

Chwech oedd yn rhan o'r grŵp fis yn ôl. Erbyn hyn mae yna dros 250.

"'Dan ni'n nocio'r drws, rhoi'r moddion ar y llawr, wedyn symud yn ôl i gael chat bach, wedyn gofyn os mae rhywbeth arall ma' nhw isio," meddai un o'r gwirfoddolwyr, Bleddyn Jones.

Y gwirfoddolwyr sy'n ceisio gwneud gwahaniaeth

"Mae pawb yn siarad fwy dwi'n meddwl, er bod rhywun dau medr o'i gilydd," meddai Aled Davies.

"Ma' nhw'n d'eud 'helo', sy'n rhywbeth oedd ddim yn digwydd o'r blaen, i dd'eud y gwir.

"Gobeithio neith hynna gario 'mlaen wedyn - 'sa fo'n beth da allan o beth drwg, mewn ffordd."

Dywed mab Aled, Ifan, fod Dinbych yn "lle lyfli i fyw, chwara' teg a mae 'di dangos efo'r gymuned rŵan efo pawb yn helpu ei gilydd yn yr adeg anodd yma."

Disgrifiad o’r llun,

Jane Jones, prif gogydd Ysgol Twm o'r Nant

Mae'r niferoedd sydd angen help i gael bwyd ar y bwrdd ar gynnydd yn y dref.

Mae adeilad y banc bwyd yng Nghapel Mawr wedi gorfod cau, ond maen nhw'n dal i ddosbarthu dan amgylchiadau cymhleth. Ac mae'r angen yn amrywio ym mhob cornel o'r dre.

Yn Ysgol Twm o'r Nant, mae'r athrawon yn weithwyr allweddol wrth gwrs, felly hefyd staff y gegin. Mae rhai teuluoedd yn parhau i ddod i'r ysgol i nôl cinio am ddim.

'Di o'm yn adeg neis o gwbl'

"'Di o'm yn adeg neis o gwbl ond mae pawb mewn hwyliau da," meddai Jane Jones, prif gogydd yr ysgol.

"'Dan ni'n bwydo nhw ac maen nhw'n cael treat bach.

"Mae 'na blant yn y sir yn cael cinio am ddim - ma' nhw'n dod i nôl y bocsys amser cinio a ma' hynny yn bwysig iawn hefyd, bod nhw dal yn cael bwyd."

Ffynhonnell y llun, Clwb Ffermwyr Ifanc Nantglyn

Mae tref Dinbych yn ganolbwynt i sawl pentre' gwledig, a'r ewyllys da yn gryf yno hefyd.

Mae Elan Pierce yn un o dîm Clwb Ffermwyr Ifanc Nantglyn a'r cylch, a'r criw wedi bod yn helpu pobol fregus yr ardal.

Casglu neges ydi'r rhan fwya' ohono 'di bod i'r henoed," meddai.

"Mewn cyfnod anodd mae pobol yn dda iawn, yn enwedig mewn pentrefi bach, gwledig fel hyn.

"Mae pawb yn dda iawn am ddod at ei gilydd a helpu ei gilydd oherwydd mae'r sefyllfa yn anodd i bawb, yn dydi?"

Neges yr enfys

Mae ysbryd cymunedol Dinbych wedi bod yn amlwg yn wyneb sawl cyfnod cythryblus mewn hanes, a chyfnod y Covid-19 yn amlygu'r cryfder hwnnw eto.

Un enghraifft ydi'r dref yma ymysg miloedd o gymunedau Cymru.

Mae gan gannoedd o dai Dinbych enfys erbyn hyn.

Jacob Jones, bachgen naw oed o'r dref sydd wedi lliwio un yn llachar ac yn glir gan adleisio neges sy'n atsain o ffenestri cartrefi dros Gymru gyfan.

"Daw eto haul ar fryn."