Straen paratoi i drin 'nifer anferth' o gleifion Covid-19
- Cyhoeddwyd

Yr ymgynghorydd gofal dwys, Dr Ami Jones
Mae meddyg blaenllaw o'r rhan o Gymru sydd wedi'i tharo waethaf gan Covid-19 wedi sôn am yr effaith emosiynol y mae'r sefyllfa'n ei gael ar staff ar y rheng-flaen.
Dywedodd Dr Ami Jones, ymgynghorydd gofal dwys gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, bod ysbytai'r rhanbarth yn wynebu "niferoedd anferth o gleifion sâl iawn".
Mae'n dweud bod llawer yn ifanc - rhai yn eu 20au.
Mae'r gweithwyr sy'n gofalu amdanynt yn ei chael hi'n anodd delio â theimladau o "beth os taw fi neu aelod o'n nheulu oedd hyn" - a'r ffaith nad yw'n bosib i berthnasau ymweld â chleifion.
Uned eisoes wedi dyblu
Gweithio yn Ysbyty Nevill Hall, Y Fenni mae Dr Jones gan amlaf.
Mae'n dweud bod y tîm yno wedi cael eu gofyn i ystyried sut byddai modd sicrhau digon o wlâu a staff ar gyfer 10 gwaith yn fwy o gleifion gofal dwys na'r arfer.
"Mae'r uned eisoes wedi dyblu - a mae gen i gynlluniau bras ar gyfer trydedd, pedwaredd, pumed - neu hyd yn oed chweched [uned].

CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees

"Mae rhai o'r peiriannau anadlu ry'n ni wedi gofyn amdanyn nhw wedi cyrraedd felly ar hyn o bryd dwi'n credu ein bod ni mewn sefyllfa lle allen ni o bosib gynyddu ein capasiti bedair gwaith, yn hytrach na dwy.
"Ond mae pobl yn gofyn am y potensial i ni gynyddu'n capasiti hyd at 10 gwaith."
'Angen mwy o staff'
"Ar ddiwrnod arferol fe fyddai gen i chwech i wyth o gleifion ar fy uned,"
"Ond ar hyn o bryd mae gen i 13, a mae'r ysbyty i lawr y lôn [Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd] yn delio â dwbwl nifer yr achosion arferol hefyd.
"Mae'n brysur iawn - ry'n ni angen mwy o staff.
"Ry'n ni'n ceisio cael ratio staff 1-1 am gleifion gofal dwys ond does dim digon o nyrsys gyda ni i wneud hynny - felly ry'n ni'n dod â rhai i fewn o ardaloedd eraill o'r ysbyty.
"Dwi'n credu bod elfen emosiynol i hyn - yn rhannol oherwydd bod y cleifion yn ifanc iawn. Mae 'na elfen o, "wow, fe alle hyn fod yn fi".

Mae Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd hefyd yn ehangu'r ddarpariaeth gofal dwys
Mae'r ffaith nad yw teuluoedd yn medru ymweld yn "heriol iawn" hefyd, meddai.
"Mae'n ddigon anodd siarad â pherthnasau pan fod gyda nhw glaf tost iawn wyneb yn wyneb.
"Iddyn nhw fethu â gallu dod i'r ysbyty a gorfod gwneud popeth dros y ffôn neu'r we - mae'n galed iawn."
Mae Dr Jones yn annog y cyhoedd i ddilyn y cyfarwyddiadau ac aros adref.
"Ry'n ni wedi cael chydig dros wythnos o'r cyfyngiadau a dyw pobl heb ufuddhau yn arbennig o dda, o weld yr adroddiadau ar y teledu o bobl yn llenwi parciau ac ati.
"Maen nhw'n peryglu eu hunain a phobl eraill."
"Mae'n dynn iawn arnon ni'n barod yma yn yr ysbyty a ry'n ni'n gweithio yn galed ofnadwy.
"Os gyrhaeddwn ni'r pwynt lle bydd 10 gwaith yn fwy o gleifion, yna dy'n ni ddim yn gwybod be fydd yn digwydd."